Galwad am well rheolaeth ar bwyntiau gyrru
Mae gan fwy na 50 o bobl yn y Deyrnas Unedig drwydded yrru ddilys er bod ganddyn nhw o leiaf 30 pwynt cosb, yn ôl gwaith ymchwil diweddar.
Oherwydd hynny, mae rhai ymgyrchwyr yn galw ar i yrwyr sy'n troseddu'n gyson i fynd ar gwrs gyrru gorfodol.
Mae gan dri dyn sydd â thrwydded yrru ddilys yn y DU - fwy na 100 o bwyntiau. Mae gan un ohonyn nhw sy'n 26 oed - 176 o bwyntiau cosb yn ôl yr astudiaeth.
Mae'r ddynes sydd â'r pwyntiau uchaf yn 50 oed, ac mae ganddi 96 pwynt ar ei thrwydded.
Mae gan 53 o bobol yn Deyrnas Unedig o leiaf 30 pwynt.
Mae pwyntiau'n cael eu rhoi am droseddau ar y ffordd, fel gyrru yn ddiofal, yfed a gyrru a gyrru yn rhy gyflym.
O dan y drefn bresennol, mae gyrwyr yn cael eu gwahardd rhag gyrru am chwe mis ar ôl derbyn 12 pwynt neu fwy o fewn cyfnod o dair blynedd, oni bai eu bod yn llwyddo i ddarbwyllo'r llys y byddai hynny yn arwain at gyfnod eithriadol o anodd allai effeithio ar eu gallu i weithio neu ofalu am eu teulu.
Mae gan gyfanswm o 10,056 o yrwyr drwydded yrru ddilys, er bod ganddyn nhw ddeuddeg pwynt cosb.
Yn ôl Nicholas Lyes, Cyfarwyddwr Polisi a Safonau yr elusen diogelwch ar y ffyrdd IAM RoadSmart, mae'r ystadegau hyn yn syfrdanol: “Rhaid cwestiynu a oes angen ail edrych ar y diffiniad o 'gyfnod eithriadol o anodd,'" meddai.
“Fan lleiaf, dylai'r rhai sy'n cyrraedd mwy na 12 pwynt orfod ymuno â chwrs hyfforddi ychwanegol."
Mae'r ffigyrau gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn Abertawe yn cofnodi cyfnod penodol yng nghanol mis Medi. Nid yw'n dangos faint yn union o yrwyr lwyddodd i osgoi gwaharddiad, er iddyn nhw gyrraedd 12 pwynt.
Yn ôl Steve Gooding, o sefydliad yr RAC Foundation, mae angen i rywun mewn awdurdod i fonitro'r sefyllfa, er mwyn dadansoddi faint yn union sy'n osgoi gwaharddiad.
“Mae angen i'r system fod yn fwy tryloyw," meddai.
Mae'r DVLA yn cofnodi gwybodaeth sydd wedi ei darparu gan lysoedd, a does ganddyn nhw ddim y grym i ddylanwadu ar ddedfrydau.
Yn ôl yr asiantaeth, pan fo gyrrwr ar 12 pwynt, ond does dim gwaharddiad wedi ei gyflwyno, maen nhw'n cysylltu â'r llys dan sylw er mwyn gwirio mai dyna oedd y bwriad.