Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio dynes ar dir eglwys gadeiriol
03/11/2024
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o dreisio menyw ar dir Eglwys Gadeiriol Henffordd.
Cafodd yr heddlu eu galw yno tua 4.30 fore Sul.
Mae'r dyn 24 oed yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn Henffordd ar hyn o bryd wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Colin Berry: “Ry'n ni'n deall fod digwyddiadau fel hyn yn medru ysgwyd y gymuned, ond rydym o'r farn nad oes perygl pellach i'r cyhoedd.
Mae'r ddioddefwraig yn cael cymorth gan ein swyddogion arbenigol. "