Dyblu cyllideb adran gwarchod y ffiniau
Bydd Prif Weinidog y DU yn addo rhagor o arian ar gyfer yr uned sy'n gwarchod y ffiniau, wrth iddo geisio atal cychod bychain rhag croesi'r Sianel o ogledd Ffrainc i dde ddwyrain Lloegr.
Tra'n areithio yng Nghynulliad Cyffredinol Interpol yn Glasgow ddydd Llun, mae disgwyl i Keir Starmer ddechrau ei ymgyrch i geisio mynd i'r afael â hynny.
Bydd yn teithio yn ddiweddarach yn yr wythnos i Hwngari ar gyfer trafodaethau ynglŷn â smyglwyr pobl.
Yn ei araith yn Glasgow, mae disgwyl i'r Prif Weinidog addo £75 miliwn yn rhagor ar gyfer yr uned sy'n gwarchod y ffiniau, gan ddod â'r cyfanswm i £150 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd.
Bydd yr arian yn cael ei wario ar gyfarpar technegol o'r radd flaenaf, a 100 o ymchwilwyr arbenigol a fydd yn targedu troseddwyr sy'n ceisio cludo pobl yn anghyfreithlon.
Mae disgwyl i Keir Starmer ddweud fod hon yn fasnach "afiach" a bod angen ei gwaredu.
Daw ei araith wedi i fwy na 5,000 o bobl groesi'r Sianel mewn cychod bychain fis Hydref - mis prysura'r flwyddyn hyd yn hyn.
Yn ystod deuddydd cyntaf Tachwedd, mae 433 o bobl wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn cychod bychain.
Hyd yn hyn, mae 31,904 wedi teithio mewn cychod bychain ar draws y Sianel eleni. Mae hyn 16% yn uwch na'r ganran yn ystod yr un cyfnod yn 2023 ond 22% yn llai na'r ganran yn 2022.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, bydd y Prif Weinidog yn mynd i uwch gynhadledd y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd yn Hwngari. Mae disgwyl trafodaeth yno ar fewnfudo a'r drefn o gludo pobl yn anghyfreithlon.