Cyhuddo bachgen o geisio llofruddio merch 13 oed
Mae bachgen yn ei arddegau wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio merch 13 oed, a gafodd ei darganfod wedi ei thrywanu droeon ar ochr ffordd ger Hull, yng ngogledd ddwyrain Lloegr.
Mae hi'n dal i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog mewn ysbyty, gydag anafiadau i'w gwddf, stumog a'i chefn.
Does dim modd cyhoeddi enw'r bachgen 14 oed oherwydd ei oed. Mae e wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, a bod ag arf miniog yn ei feddiant.
Mase e wedi ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hull ddydd Llun.
Cafodd chwech o bobl ifanc yn eu harddegau eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, ar ôl cael eu darganfod mewn coedwig gerllaw ddydd Gwener.
Dywedodd yr heddlu fod tri bachgen 15,16 ac 17 oed a dwy ferch 14 a 15 oed bellach wedi eu ryddhau ar fechnïaeth.