Newyddion S4C

Movember: Cymro wedi cwblhau ei daith siâp pidlen

03/11/2024
Terry Rosoman

Mae Cymro wedi llwyddo i gwblhau ei daith a cheisio torri'r record am y llun GPS mwyaf o bidlen, er mwyn codi arian ar gyfer elusen Movember.

Cynlluniodd Terry Rosoman, 39, lwybr 75 milltir mewn siâp pidyn ar draws Bannau Brycheiniog, a cherdded ar hyd y llwybr hwnnw, er mwyn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion.

Roedd yn  gobeithio y bydda'r siâp yn cael sylw gan "y grŵp demograffig y mae'n targedu" gan ddweud y byddai nifer fawr o ddynion yn gweld y siâp yn "ddoniol".

Mae Movember yn elusen sy'n codi arian ac ymwybyddiaeth am iechyd meddwl dynion, hunanladdiad, canser y prostad a chanser y ceilliau.

Dechreuodd ei her yng ngorsaf drenau Y Fenni, Sir Fynwy am 17:00 ddydd Gwener, a llwyddodd i ddychwelyd i'r orsaf erbyn 16:30 ddydd Sadwrn, gan gwblhau'r her mewn llai na 24 awr. 

Wrth gwblhau'r daith, dywedodd Mr Rosoman, mai dyma'r "her anoddaf" iddo ei chyflawni. 

"Roedd yn anodd iawn, a hynny am 24 awr," meddai. 

“Wnes i ddim cysgu, mi redais drwy'r nos, mewn tywyllwch, ro'n i methu gweld. Ac fe aethom ar goll sawl tro!"  

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.