Ceredigion yn ennill Eisteddfod CFFI Cymru
Ffederasiwn Ceredigion enillodd Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc 2024.
Wedi 14 awr o gystadlu yn Ysgol Bro Myrddin, yng Nghaerfyrddin, hen siroedd Dyfed oedd yn y tri uchaf wrth i Geredigion sicrhau'r marciau uchaf, gyda Sir Gâr yn ail a Sir Benfro yn y trydydd safle.
Wrth iddi agosáu at hanner nos, cystadleuaeth y corau ddaeth â'r cystadlu i ben.
Sir Gâr ddaeth yn fuddugol o dan arweiniad Sioned Page Jones, a oedd hefyd yn llywydd yr ŵyl eleni, wrth i Sir Gâr groesawu'r Eisteddfod i'r sir.
Yn seremoni'r Gadair a'r Goron, Mared Fflur Jones o CFFI Ynys Môn gipiodd Gadair Eisteddfod CFFI Cymru, gydag Elain Iorwerth o CFFI Meirionnydd yn cael ei choroni'n Brif Lenor.
Oriel luniau Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc 2024