Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod CFFI Cymru

02/11/2024
Cadair a Chron CFFI Cymru

Mared Fflur Jones o CFFI Ynys Môn gipiodd Gadair Eisteddfod CFFI Cymru, gydag Elain Iorwerth o CFFI Meirionnydd yn cael ei choroni'n Brif Lenor.  

Wrth draddodi ei feirniadaeth ar lwyfan Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yng Nghaerfyrddin, dywedodd beirniad y Gadair, y Prifardd Aneirin Karadog fod cerdd Mared Fflur Jones wedi creu argraff : "Mae’r grymuster yn y canu yn taro rhywun erbyn i ni gyrraedd diwedd y gerdd olaf.

"Magu gwreiddiau mewn person rydyn ni’n ei garu sydd yma, yn hytrach na magu gwreiddiau mewn lle, cawn fod caru rhywun yn gallu golygu magu gwreiddiau rhwng dau berson, a hynny wedi i ddadwreiddio ddigwydd yng nghwrs y gerdd."

Mae Mared Fflur Jones yn aelod o glwb CFFI Rhosybol, ac yn aelod o'r clwb ym Môn am y tro cyntaf eleni ar ôl iddi fod yn aelod o glwb Dinas Mawddwy o'r eiliad yr oedd hi'n ddigon hen i ymaelodi. Mae hi'n Athrawes Gymraeg yn Ysgol Botwnnog ym Mhen Llŷn. 

Cafodd y Gadair ei chreu eleni gan ddau aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanllwni, Sir Gâr. Cafodd yr elfen bren ei chwblhau gan Siôn Evans, cyn-gadeirydd y sir, a’r gwaith metel gan Hefin Jones.

Elain Iorwerth, CFfI Prysor ac Eden, Ffederasiwn Meirionnydd gipiodd y Goron eleni. 

Dywedodd y beirniad, y Prifardd Tudur Dylan Jones ei bod hi'n fuddugol mewn cystadleuaeth o safon uchel: "Mae’r mynegiant yn gyfoes a bywiog o’r dechrau. Mae’r fonolog gyntaf am ferch yn trafod ‘stress’. Er bod hyn yn bwnc difrifol, mae ysgafnder y dweud yn fodd o drosglwyddo’r neges yn rymusach. 

"Mae’r monologau hyn yn ddarllenadwy ac yn codi i dir uchel."

Mae Elain wedi bod yn aelod o fudiad y Ffermwyr ifanc ers yn 11 oed, a bellach yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Elain yw Cadeirydd Aelwyd JMJ eleni, ac mae hi yn aelod o'r band Mynadd. 

Cafodd y Goron ei chreu gan Lowri Elen Jones o CFfI Dyffryn Tywi, Sir Gâr. 

Llun CFFI Cymru 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.