Newyddion S4C

Dod o hyd i Gymro oedd ar goll yng Ngweriniaeth Iwerddon

02/11/2024
Chris Ellery

Mae Cymro oedd wedi bod ar goll ers dydd Iau bellach wedi’i ddarganfod yn ddiogel yng Ngweriniaeth Iwerddon. 

Diflannodd Chris Ellery, 54, wedi iddo fynd ar daith mewn cwch ar ei ben ei hun oddi ar arfordir Sir Benfro ddydd Mercher. 

Dywedodd ei ferch, Kenzie, ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod yn aml yn mynd ar deithiau o’r fath ac roedd yn disgwyl iddo ddychwelyd adref am hanner dydd  ddydd Iau. 

Apeliodd ar bobl i helpu yn yr ymgyrch i ddod o hyd iddo wedi i griwiau achub ddod o hyd i’w eiddo mewn cildraeth. 

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau brynhawn  Sadwrn bod Mr Ellery wedi ei ddarganfod yn ddiogel.

Yn ôl adroddiadau, fe gafodd ei ddarganfod yn Wicklow ar ôl mynd i orsaf heddlu leol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.