Dwy ddynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y Barri
02/11/2024
Mae dwy ddynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn y Barri, Bro Morgannwg brynhawn Sadwrn, ac mae dau ddyn wedi eu cludo i'r ysbyty.
Y gred yw fod un o'r dynion mewn cyflwr difrifol.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A4050 ger cyffordd Port Road East.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 13.40 wedi adroddiadau fod dau gerbyd wedi taro yn erbyn ei gilydd.
Dywedodd y Rhingyll Craig Wood: "Mae ein hymchwiliad yn y camau cyntaf, ac ry'n ni'n dal i geisio darganfod yr amgylchiadau yn llawn."
Mae'r heddlu wedi rhybuddio y bydd y ffordd ar gau tan o leiaf 2.00 fore Sul.