Becws i gau yng Nghaernarfon wedi canrif o bobi
Bydd becws Carlton yng Nghaernarfon yn cau ei ddrysau am y tro olaf ar 9 Tachwedd.
Yn ôl y perchnogion, maen nhw wedi penderfynu cau'r safle gyda thristwch "oherwydd amgylchiadau."
Dywedodd y perchnogion mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol eu bod yn "diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd."
Mae nifer yn ardal Caernarfon wedi mynegi siom a thristwch ar ôl darllen y cyhoeddiad, gan alw'r Carlton yn 'iconic ac yn fusnes teuluol hanesyddol."
"Busnas arall yn cau yn Caernarfon," meddai un sylw.
"Byddai ddim yn cael cacan gwstad ac almond tart y tro nesaf y byddaf yn dod i Gaernarfon, mwya'r piti. Y treat am 80 o flynyddoedd," meddai un o gwsmeriaid ffyddlon y becws.
Mae Becws Carlton ar Stryd Bangor yng Nghaernarfon wedi bod yn pobi bara a gwerthu cacennau ers 1922.