Teyrngedau i filwr 'dewr' o Wynedd a fu farw ar ôl dioddef o ganser
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i filwr ifanc “ffyddlon a dewr” o Lwyngwril ger Dolgellau yng Ngwynedd a fu farw ar ôl dioddef o ganser.
Roedd y Ffiwsilwr Jack Wilkes, yn filwr gyda Chatrawd Brenhinol Cymru, a bu farw ar 29 Hydref.
Fe ymunodd Mr Wilkes â’r gatrawd ar 6 Rhagfyr 2021, ag yntau wedi “caru pob munud” medd teyrnged iddo.
Roedd yn paratoi i hyfforddi er mwyn cael ei benodi’n Is-gorporal ond gwaethygodd ei gyflwr, a doedd dim modd iddo gwblhau’r cwrs.
Dywedodd datganiad gan Gatrawd Brenhinol Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol: “Trwy gydol ei frwydr â chanser, roedd y Ffiwsilwr Wilkes wastad ar ei orau ac roedd wastad yn gwenu.
“Fe wnaeth e bopeth o fewn ei allu i aros yn gryf o flaen ei deulu a'i ffrindiau… roedd yn fodel rôl i ni gyd."
'Poblogaidd'
Yn “driw i’w gymeriad” bu farw wrth wrando ar y DJ Basshunter a gyda blas o’r seidr Kopperburg ar ei wefusau, ychwanegodd.
Gan ei ddisgrifio fel unigolyn “poblogaidd” a “brwdfrydig,” roedd Mr Wilkes yn “filwr, ffrind, partner, nai, brawd, a mab ffyddlon a dewr,” medd y datganiad.
“Mae colli'r Ffiwsilwr Wilkes dan yr amgylchiadau heriol yma yn anodd.
“Bydd ei farwolaeth yn effeithio ar bawb oedd yn ei adnabod, am weddill eu hoes.”
Roedd y Ffiwsilwr Jack Wilkes hefyd yn bêl-droediwr brwd, ag yntau wedi cynrychioli Academi'r Bala rhwng 11 ac 16 oed.