Cau uned mân anafiadau yn Llanelli dros nos am y tro cyntaf
Mae pryder y gallai pobl “golli eu bywydau” yn Llanelli, Sir Gâr, yn dilyn toriadau i uned mân anafiadau’r ysbyty yno.
Mae uned mân anafiadau Ysbyty'r Tywysog Phillip, sydd fel arfer ar agor 24 awr y dydd, bellach ar gau rhwng 20.00 ac 08.00 y bore.
Cafodd ei chau am y tro cyntaf nos Wener, gan ail-agor fore Sadwrn.
Fe fydd y newidiadau mewn grym am gyfnod o chwe mis ac fe ddaw yn sgil problemau staffio, medd Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ond mae dros 15,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am gadw'r uned ar agor dros nos.
Penderfynodd rhai ymgyrchwyr wersylla y tu allan i’r ysbyty nos Wener er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau.
Roedd Andrew Bragoli ymhlith y protestwyr yno, ag yntau'n dweud bod yr uned wedi achub ei fywyd wedi iddo gael strôc.
“Pan ‘dych chi’n dioddef strôc, mae’n hanfodol derbyn triniaeth yn ystod y 10 munud cyntaf yna.
“Dwi’n gweithio yng ngwaith dur Tata, sy' filltir o fan hyn. Mae’n bur debyg fod yr uned mân anafiadau wedi achub fy mywyd,” meddai.
Diffyg staff
Mae tua chwarter o’r bobl sy’n ymweld ag uned mân anafiadau Ysbyty'r Tywysog Phillip yn dioddef a chyflyrau neu anafiadau “difrifol” – gan gynnwys unigolion sydd wedi dioddef strôc, plant â phroblemau stumog difrifol, a menywod â phroblemau yn ystod beichiogrwydd.
Mae’r gyfran o bobl sy’n ymweld â’r uned fân anafiadau gydag achosion difrifol yn uwch gyda’r nos.
Ni fydd y drefn newydd yn effeithio ar yr uned feddygol aciwt – sy’n darparu gofal brys i gleifion sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon.
Daw’r penderfyniad i gau’r uned fân anafiadau yn dilyn diffyg staffio, esboniodd yr arweinydd clinigol Jon Morris.
Mae’n dweud bod yna heriau wrth geisio sicrhau bod meddygon “sydd â chymwysterau addas” ar gael i weithio nifer o shifftiau yno, a bod hynny’n fwy o her gyda’r nos.
Rhwng mis Chwefror a Gorffennaf eleni roedd yna 42 o shifftiau gwag ar yr uned. Roedd 23 o’r rheiny yn ystod y nos, medd y bwrdd iechyd.