Y ddigrifwraig Janey Godley wedi marw yn 63 oed
Mae’r ddigrifwraig Albanaidd Janey Godley wedi marw yn yr ysbyty ar ôl derbyn gofal diwedd oes.
Roedd hi'n 63 oed, ac wedi dioddef o ganser yr ofari.
Mewn neges fideo deimladwy ar gyfryngau cymdeithasol fis Medi, cyhoeddodd y gomediwraig o Glasgow ei bod yn derbyn gofal diwedd oes ar ôl i’w chanser ymledu.
Mewn datganiad dywedodd ei rheolwr Chris Davies: “Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth Janey Godley ar 2 Tachwedd.
“Bu farw yn heddychlon yn Hosbis Tywysog a Thywysoges Cymru yn Glasgow wedi'i hamgylchynu gan ei hanwyliaid."
Fe ddaeth Ms Godley yn enw cyfarwydd adeg pandemig Covid wrth iddi ddynwared Prif Weinidog yr Alban ar y pryd, Nicola Sturgeon, ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd pawb yn ei chofio am ei “chomedi di-flewyn-ar-dafod, ond yn bennaf oll am fod yn ‘Janey’”, meddai Chris Davies.
“Bydd colled fawr ar ei hôl gan ei theulu, ffrindiau, a’i holl gefnogwyr.”