Llifogydd Sbaen: Rhagor o filwyr yn ymuno â'r ymgyrch achub
Mae cannoedd yn rhagor o filwyr wedi eu hanfon i ranbarth Valencia yn Sbaen wrth i bobl leol feirniadu ymateb yr awdurdodau yn lleol i'r llifogydd difrifol yno.
Mae mwy na 200 o bobl wedi marw, gyda'r mwyafrif yn rhanbarth Valencia. Ac mae disgwyl i nifer y meirw godi eto.
Gyda 1700 o filwyr eisoes yn cynorthwyo'r ymgyrch chwilio ac achub, mae 500 yn rhagor o filwyr wedi eu hanfon yno.
Dechreuodd y llifogydd ddydd Llun, wrth i bontydd chwalu. Wedi hynny fe sgubodd mwd a malurion, gan adael cymunedau heb ddŵr, bwyd na thrydan.
Mae nifer o bobol yn dadlau na fu digon o rybudd gan yr awdurdodau cyn y glaw trwm.
Mae miloedd o bobl wedi teithio i ardaloedd gwledig er mwyn clirio'r llanast.
Mae rhybuddion am dywydd gwael yn dal i fod mewn grym yng ngogledd-ddwyrain a de Sbaen, yn ogystal â'r Ynysoedd Baleares