Newyddion S4C

Arestio chwech yn eu harddegau ar amheuaeth o geisio llofruddio merch 13 oed

02/11/2024
Ferriby High Road, Hessle

Mae chwech o bobl yn eu harddegau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio merch 13 oed. 

Fe ddaeth swyddogion yr heddlu o hyd i’r ferch ar ochr ffordd yn Sir Efrog. 

Roedd hi wedi dioddef anafiadau sy'n peryglu ei bywyd ac mae’n parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr “difrifol ond sefydlog ,” meddai’r heddlu. 

Y gred yw iddi gael ei thrywanu am tua 06.50 fore Gwener gan ddioddef anafiadau i’w gwddf, stumog, ei brest a’i chefn. 

Cafodd ei darganfod ar ochr ffordd yr A63 yn nhref Hessle a’i chludo i’r ysbyty. Mae’n parhau yno mewn cyflwr difrifol, medd yr heddlu. 

Mae pedwar bachgen 14, 15, 16 ac 17 oed, yn ogystal â dwy ferch 14 ac 15 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i'r heddlu ddod o hyd iddyn nhw mewn coedwig gyfagos. 

Maen nhw’n parhau yn y ddalfa. 

Mae’r llu bellach wedi cadarnhau bod y grŵp o bobl ifanc yn adnabod y ferch. 

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Vickers: “Dros y 24 awr ddiwethaf mae fy nhîm wedi bod yn cynnal ymchwiliadau dwys er mwyn deall pam digwyddodd yr ymosodiad hwn, ac i ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at yr ymosodiad ar ferch 13 oed sy’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty.”

Dywedodd hefyd bod yr ardal o amgylch y goedwig a gafodd ei chau am gyfnod, bellach wedi ail-agor ond mi fydd swyddogion yn parhau i fod yno dros y penwythnos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.