Kemi Badenoch yw arweinydd newydd y Blaid Geidwadol
Kemi Badenoch yw arweinydd newydd y Blaid Geidwadol
Mae Kemi Badenoch wedi ei hethol yn Arweinydd y Blaid Geidwadol.
Mae hi'n olynu'r cyn Brif Weinidog Rishi Sunak a gyhoeddodd y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn arweinydd y blaid, wedi colled drom y blaid yn yr Etholiad Cyffredinol.
Llwyddodd i guro Robert Jenrick gyda 53,806 o bleidleisiau.
Cafodd ei gwrthwynebydd 41,388 o bleidleisiau.
A 72.8% o aelodau'r blaid Geidwadol fwrodd eu pleidlais.
Yn ei haraith wedi iddi gael ei hethol yn arweinydd, dywedodd bod hynny yn "fraint enfawr."
"Mae'r blaid wedi rhoi gymaint i mi," meddai.
Wrth ei chyflwyno wedi ei buddugoliaeth, dywedodd Bob Blackman, cadeirydd Pwyllgor 1922 o blith aelodau'r meinciau cefn: "Onid yw hi'n wych i gael menyw arall yn arweinydd y blaid."
Yn ystod ei haraith, dywedodd Kemi Badenoch ei bod hi eisiau diolch i'w rhagflaenydd Rishi Sunak a'r ymgeiswyr eraill yn y ras am yr arweinyddiaeth.
Ac ychwanegodd bod angen i'r blaid fod yn onest a chydnabod "i ni wneud camgymeriadau."
Dywedodd Andrew RT Davies AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda Kemi Badenoch ac i "ddwyn Llafur i gyfri."
Dywedodd: “Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, byddem yn hoffi llongyfarch Kemi ar ddod yn arweinydd y blaid, ac rwy'n dymuno'n dda iddi yn arwain yr wrthblaid."
“Roedd gan y ddau ymgeisydd weledigaeth gadarnhaol ar gyfer ein gwlad, a gan fod yr ornest wedi dod i ben bellach, mae'n amser i ni ddod at ein gilydd a chefnogi Kemi wrth iddi ddwyn y Llywodraeth Lafur ofnadwy hon i gyfri - mae nhw eisoes wedi achosi cymaint o ddifrod i Gymru yn ystod eu cyfnod byr mewn grym yn Llundain, " meddai.
Wedi proses sydd wedi para bron bedwar mis, fe ymunodd chwe ymgeisydd â'r ras am yr arwenyddiaeth yn wreiddiol ym mis Gorffennaf.
Ac wedi sawl pleidlais ymhith aelodau seneddol Ceidwadol, a phedwar ymgeisydd yn colli eu lle - Kemi Badenoch a Robert Jenrick oedd y ddau ar ôl yn y ras.
Wedi hynny, cafodd aelodau'r Blaid Geidwadol gyfle i bleidleisio am eu harweinydd newydd dros gyfnod o 16 o ddiwrnodau.