Manchester United yn penodi Ruben Amorim yn rheolwr newydd
01/11/2024
Mae Manchester United wedi penodi Ruben Amorim yn rheolwr newydd ar gytundeb tan fis Mehefin 2027.
Bydd y rheolwr 39 oed yn gadael ei swydd gyda Sporting Lisbon a chychwyn yn ei rôl newydd ar 11 Tachwedd.
Fe fydd yn cymryd yr awenau wedi i Manchester United ddiswyddo Erik Ten Hag ddydd Llun.
Yn y cyfamser bydd Ruud van Nistelrooy yn parhau fel rheolwr dros dro.
Roedd rhaid i Manchester United dalu £8.3 miliwn er mwyn gweithredu amod yng nghytundeb Ruben Amorim gyda Sporting oedd yn ei alluogi i adael y clwb.
Amorim yw chweched rheolwr parhaol Manchester United ers i Syr Alex Ferguson ymddeol yn 2013.
Llun: Pedro Loureiro/Wochit