Newyddion S4C

Dros 200 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r llifogydd yn Sbaen

01/11/2024

Dros 200 o bobl wedi marw o ganlyniad i'r llifogydd yn Sbaen

Mae dros 200 o bobl bellach wedi marw yn y llifogydd gwaethaf mewn cenhedlaeth yn Sbaen.

Mae mwy na 1,200 o weithwyr, gyda chymorth dronau, wedi eu hanfon i ardal dde ddwyrain y wlad o amgylch Valencia i helpu gyda’r gwaith achub wrth i law trwm barhau i fygwth rhannau o'r wlad.

Mae rhybudd coch newydd yn ei le yn nhalaith Huelva yn ne orllewin y wlad.

Dywedodd Prif Weinidog Sbaen Pedro Sánchez: “Ar hyn o bryd y peth pwysicaf yw achub cymaint o fywydau â phosib.”

Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi dweud fod y wlad "yn sefyll gyda Sbaen yn ystod y cyfnod anodd yma."

Cofnodwyd o leiaf 202 o farwolaethau yn Valencia, tra bod dwy arall wedi’u cofnodi yn Castilla-La Mancha i’r gorllewin o’r dalaith, ac un arall, sef dyn o Brydain, yn Andalusia. 

Mae nifer anhysbys o bobl yn dal ar goll.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.