'Damwain ar ddigwydd wastad': Pryder am nifer y gwrthdrawiadau beiciau modur yn Sir Gâr
Mae'r nifer o wrthdrawiadau angheuol yn ymwneud â beiciau modur yn Sir Gâr yn "bryderus iawn" yn ôl un cynghorydd lleol.
Bu farw tri pherson mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â beiciau modur yn ardal Llanymddyfri dros y penwythnos.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enwau'r ddau ddyn fu farw ar yr A40 i'r de o Lanymddyfri ddydd Sadwrn, sef Rhodie Thackwray, 56, a Jack Agius, 29.
Bu farw un person arall mewn gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen du a beic modur KTM du yn y sir ddydd Sul.
Yn ôl un cynghorydd lleol, nid yw'r nifer o wrthdrawiadau angheuol ar yr heolydd hyn yn syndod.
Dywedodd cynghorydd ward Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Andrew Davies, wrth Newyddion S4C: "Mae’r A40 yng ngogledd Sir Gaerfyrddin wedi mynd yn hewl beryglus iawn yn ddiweddar. Mae fy nghydymdeimlad mwyaf diffuant gyda’r rhai fu farw yn y damweinie, a gyda’r rhai a gollodd anwyliaid yn y damweinie hynny.
Ond mae Mr Davies yn teimlo nad yw nifer y gwrthdrawiadau yn ymwneud â beiciau modur yn syndod i'r gymuned leol.
"Dwi’n bryderus iawn. Mae’ ‘na ryw deimlad gan lawer iawn yn yr ardal bod ‘na ddamwain ar ddigwydd wastad, mae e’n un o’r teimlade ofnadwy 'na ni’n gorfod byw gydag e ac yn anffodus y penwythnos diwethaf fe ddaeth hynny i fod," meddai.
'Circuit TT'
Ychwanegodd Mr Davies nad oedd y broblem yn un newydd, a bod heol yr A40 yn benodol yn un sydd yn cael ei defnyddio yn aml gan yrwyr beiciau modur.
"Dydw i ddim yn gyfarwydd ag union fanylion y damweinie diweddar yn anffodus…dyna i gyd y gallaf ddweud yw bod tuedd i ddefnyddio’r A40 gan feicwyr modur fel petai’n ‘circuit’ rasio TT, yn arbennig ar y penwythnose. Mae rhai gyrwyr ceir yr un mor anghyfrifol, yn anffodus," meddai.
'Meddwl ddwywaith'
Mae Mr Davies eisoes wedi cysylltu gydag adrannau mewnol Cyngor Sir Gâr ac fe fydd yn cysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys yn y dyddiau nesaf er mwyn "ceisio dod o hyd i ateb".