Cyflwr prin yn golygu 'nad oes disgwyl i fy mab fyw heibio 10 oed'
Cyflwr prin yn golygu 'nad oes disgwyl i fy mab fyw heibio 10 oed'
Mae mam i fachgen chwech oed wedi dweud nad yw'n disgwyl i'w mab "fyw heibio 10 oed" oherwydd cyflwr prin sydd yn effeithio ar bedwar plentyn ym Mhrydain yn unig.
Mae Myles Hughes yn byw gyda chyflwr genetig prin 4H Leukodystrophy, sydd yn effeithio ar y system nerfau, mater gwyn yr ymennydd a'r wain myelin, sydd yn amddiffyn celloedd y nerfau yn yr ymennydd.
Nid yw Myles yn gallu cyfathrebu na cherdded, mae angen cadair olwyn arbennig arno, mae'n fyddar ac mae ganddo anghenion dysgu.
Hefyd mae'r cyflwr yn golygu bod llai o ddannedd neu ddannedd abnormal gyda Myles, sydd yn symptom prin iawn.
Dywedodd ei fam, Georgia Hughes o Dreffynnon yn Sir Y Fflint wrth Newyddion S4C bod diagnosis Myles yn un hynod o brin.
"Pan gafodd ei eni doedd o ddim yn anadlu, ac nid oeddwn i wedi cael ei ddal o gan fod angen sylw arno yn syth.
"Mae symptomau Myles o fewn y cyflwr yn hynod o brin, nid oes disgwyl iddo gyrraedd puberty.
"Dwi'n gorfod ei gario i bobman, mae'n gallu cropian ond mae angen cadair olwyn a chyfarpar arbennig arno."
Dechreuodd symptomau 4H Leukodystrophy ymddangos yn syth wedi i Myles gael ei eni ar ôl iddo fethu nifer o brofion clywed.
Yn un diwrnod oed, roedd doctoriaid yn gallu clywed clinc yng nghlun Myles, ac ar ôl profion pelydr-x cafodd ddiagnosis o dysplasia yn ei glun chwith.
Nid oedd llawdriniaeth i geisio ei wella yn llwyddiannus ac yn dilyn llawer o brofion derbyniodd Georgia'r newyddion am abnormalrwydd yn yr ymennydd ei mab yn ogystal.
Y cam nesaf oedd profion genetig i ganfod yn union beth oedd cyflwr Myles, ac ar ôl derbyn diagnosis fe aeth Georgia â Myles i gyfarfod y doctor wnaeth ganfod y cyflwr, Dr Nicole Wolf.
Roedd y newyddion wnaeth hi dderbyn yn ddinistriol, meddai.
"Dywedodd hi bod dim disgwyl iddo fyw heibio 10 oed oherwydd bod ganddo niwed i goesyn yr ymennydd.
"Doedd hi heb weld hynny mewn plant eraill ac felly roedd cyflwr Myles yn hynod o brin.
"Roedd yr apwyntiadau yn dorcalonnus ac yn drawmatig, doeddwn i ddim yn disgwyl iddi ddweud rhai o'r pethau hyn.
"Roedd hi'n bendant na fyddai bywyd Myles yn hir."
'Byw mewn gobaith'
Ar hyn o bryd, nid oes triniaeth na gwellhad i 4H Leukodystrophy.
Mae ymchwil yn cael ei gynnal ond nid oes cynlluniau ar gyfer treialon genetig i'r cyflwr, a fydd yn gam yn nes at ddarganfod gwellhad.
Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio mae anobaith Georgia am ddyfodol ei mab yn cynyddu.
"Pob dydd rydym ni'n byw mewn gobaith y bydd Myles yn parhau i fod yn gryf," meddai.
"Ond i glywed 'mewn pum mlynedd, mewn 10 mlynedd rydym yn gobeithio', mae'n dorcalonnus achos beth os nad oes gennym ni'r amser i aros?
"Dydw i ddim yn gallu meddwl am y dyfodol, mae'n rhaid i fi feddwl o ddydd i ddydd."
'Unig'
Mae dros 40 o staff yn gweithio gyda Myles yn ei apwyntiadau ysbyty ac mae hosbis Tŷ Gobaith hefyd yn cynnig cymorth i Georgia.
Ond mae gofalu am Myles yn golygu bod Georgia, sydd yn 27 oed wedi rhoi gorau i'w swydd ac nid oes ganddi fywyd cymdeithasol, meddai.
"Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr. Doeddwn i byth yn meddwl y byddaf yn ofalwr llawn amser, yn methu gweithio.
"Mae'r unigrwydd yn gallu bod yn anodd. Dwi heb wneud ffrindiau ers gadael ysgol, does gen i ddim bywyd cymdeithasol.
"Dwi jyst yn fam a gofalwr llawn amser."
'Creu atgofion'
Nid yw Georgia yn gwybod am ba hyd fydd bywyd Myles, ac mae'n benderfynol o greu llawer o atgofion gydag ef.
Mae hi eisoes wedi gwneud nifer o gynlluniau ar gyfer y Nadolig, a dros yr hanner tymor hwn mae Myles wedi bod i'r sŵ i weld sioe goleuadau Calan Gaeaf a mynd i barti gyda phlant byddar eraill.
"Dwi eisiau creu nifer o atgofion a dwi'n gallu tra bod o yma efo fi.
"Mae Myles yn caru bod allan yn yr awyr agored. Pe bai hi'n glawio, yn wyntog neu'n stormus does na'm bwys, mae o mor hapus.
"Dwi'n caru ei bersonoliaeth direidus, ac er gwaethaf yr holl broblemau mae'n ei wynebu, mae o bob tro yn hapus.
"Dwi'n dweud hynny wrth bobl ond dydyn nhw ddim yn fy nghredu i, mae e byth yn drist, ond mae'n hapus drwy'r amser."