20 mlynedd o garchar i ddyn 'treisgar a pheryglus' am ymosod ar fenyw yn ei chartref
Mae dyn a ymosododd yn gorfforol ac yn rhywiol ar fenyw yn ei chartref ei hun wedi cael ei ddedfrydu i garchar am 20 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe.
Aeth Benjamin Guiver, 35 oed, i mewn i dŷ y fenyw yn hwyr yn y nos lle’r oedd hi wedi syrthio i gysgu yn yr ystafell fyw.
Deffrodd i weld Guiver yn yr ystafell a rhedodd allan mewn braw.
Dilynodd Guiver hi, gafaelodd yn ei gwallt a’i dyrnu, ac wedyn tarodd ei hwyneb ar y llawr.
Ar ôl llusgo’r ddynes yn ôl i’r tŷ gerfydd ei gwallt, ymosododd Guiver arni’n rhywiol.
Yna, cyrhaeddodd perthynas i’r ddynes a hel Guiver allan o’r tŷ ond fe wnaeth Guiver ymosod arno hefyd gan ei ddyrnu a’i dagu, cyn i’r heddlu gyrraedd.
Fe gollodd y fenyw nifer o ddannedd yn ystod yr ymosodiad ciaidd ym mis Mai, ac mae'r heddlu wedi canmol ei dewrder a'i chryfder.
'Erchyll'
Yn dilyn y ddedfryd dydd Iau, dywedodd Jessie Walling o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd y trais corfforol a rhywiol a ddioddefwyd gan y fenyw dan law dieithryn llwyr yn ei chartref ei hun yn erchyll.
“Roedd y dystiolaeth gadarn a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi golygu bod y dyn wedi pledio’n euog i droseddau difrifol iawn.
"Mae’r ddau a ddioddefodd yr ymosodiadau wedi bod yn ddewr iawn, a gobeithio y byddan nhw’n cael rhywfaint o gysur o weld y troseddwr hwn yn cael ei ddwyn gerbron y llys am ei droseddau dychrynllyd.”
Mewn datganiad a ysgrifennwyd gan y dioddefwr, disgrifiodd ei hun fel “cragen o’i hunan” yn dilyn y digwyddiad, gan deimlo’n gyson “ar goll, yn anniogel ac ar y dibyn”.
Ysgrifennodd: “Rwy’n teimlo bod fy mywyd wedi’i droi wyneb i waered. Nid wyf bellach yn teimlo'n ddiogel yn fy nghartref fy hun sy'n deimlad nad wyf erioed wedi'i brofi o'r blaen.
“Rydw i wastad wedi bod yn hyderus ac yn annibynnol, fodd bynnag, mae hynny bellach wedi’i rwygo’n ddieflig oddi wrthyf.
“Rwyf mor daer eisiau mynd yn ôl i ryw fath o normalrwydd gyda fy mywyd, ond gwn fod yr hyn sydd wedi digwydd yn mynd i barhau i fy aflonyddu am weddill fy oes.”
'Dewrder aruthrol'
Dywedodd DCI Briggs o Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r dioddefwr yn yr achos hwn wedi dangos dewrder aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad, ac rwy’n ei chanmol am hynny.
“Mae dioddef ymosodiad o’r fath yn eich cartref eich hun yn annirnadwy, ac – fel y manylodd yn ei datganiad – mae wedi effeithio ar bob agwedd o’i bywyd.
“Er gwaethaf hyn, mae hi wedi dangos cryfder ei chymeriad bob cam o’r ffordd ac wedi gweithio ochr yn ochr â swyddogion i sicrhau bod cyfiawnder yn bodoli.
“Hoffwn hefyd dynnu sylw at weithredoedd ei pherthynas a ymyrrodd yn ystod yr ymosodiad, gan roi eu diogelwch eu hunain mewn perygl i sicrhau nad oedd niwed pellach yn cael ei achosi.”