Cyhuddo dyn wedi ymosodiad ar ferch 11 oed yng Nghaerdydd

31/10/2024
Heddlu

Mae Heddlu'r De wedi cyhuddo dyn 31 oed yn dilyn ymosodiad ar ferch 11 oed a ddigwyddodd tua 17.30 ddydd Gwener 25 Hydref ar lwybr troed yng Nghaerdydd.

Mae Alexander Dale, 31, o ardal Adamsdown wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol drwy gyffwrdd â merch o dan 13 oed ac o gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

Digwyddodd yr ymosodiad rhwng Clwb Golff Caerdydd a Heol Pentwyn sy'n mynd heibio Glyn Rhosyn, Pontprennau.

Roedd y ferch yn mynd â’i chi am dro pan ddaeth dyn i siarad gyda hi, cyn ymosod arni a'i gwthio i'r llawr a rhedeg i ffwrdd.

Mae Mr Dale wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad arall ar 23 Hydref ar fws rhwng Y Barri a Chaerdydd pan y gwnaeth fynd at ferch 15 oed gan wneud awgrymiadau amhriodol.

Mae'n parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 1 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.