Newyddion S4C

Marwolaeth dynes yn y Rhyl: Apêl o'r newydd gan yr heddlu

31/10/2024
Llofruddiaeth Y Rhyl

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth dynes 69 oed o'r Rhyl apelio o'r newydd am unrhyw wybodaeth all fod o help. 

Mae Dean Mark Albert Mears, 33 oed, o Fae Cinmel wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth a byrgleriaeth gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Yn dilyn y digwyddiad nos Iau diwethaf, bydd swyddogion i'w gweld yn ardal Heol Cefndy brynhawn dydd Iau i siarad gyda chymdogion a chasglu gwybodaeth bellach.

Dywed yr heddlu na ddylai hyn achosi pryder i bobl sy'n byw yn yr ardal.

Mae swyddogion wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u cefnogaeth wrth i'w hymchwiliad barhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.