Rygbi: Archie Griffin yn trafod ei ddiagnosis o gyflwr ar y galon

31/10/2024
Archie Griffin

Mae prop Cymru Archie Griffin wedi derbyn diagnosis o gyflwr ar y galon.

Nid yw'r chwaraewr 23 oed wedi chwarae i'w glwb Caerfaddon ers 20 Medi ar ôl iddo deimlo'n sâl ar ôl camu i'r cae fel eilydd.

Cafodd ddiagnosis o pericarditis, cyflwr lle mae'r sach tu allan i'r galon yn troi'n llidiog (inflamed).

Mae Griffin, sydd yn 23 oed, wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau'r Hydref yn erbyn Ffiji, Awstralia a De Affrica.

Mewn cyfweliad gyda Mail Online, dywedodd bod y diagnosis wedi ei bryderu i gychwyn.

"Fe ddaeth allan o nunlle, roedd yn ofnus pan godais o'r gwely ac roedd e'n teimlo fel bod rhywun yn sefyll ar fy mrest," meddai.

"Roedd e'n deimlad erchyll, roedd poen enfawr yn fy mrest.

"Does dim achosion naturiol i'r cyflwr. Mae'n anlwcus dwi'n meddwl, ond mae'r pethau yma'n digwydd ac mae rhaid i chi barhau i fynd."

Ychwanegodd nad oedd y cyflwr wedi effeithio ar ei ffitrwydd na'i berfformiad ar y cae rygbi.

'Methu cymryd risgiau'

Nid yw'r cyflwr yn un sydd yn cael ei ystyried fel un parhaol, ac roedd Griffin yn ôl ar y cae ymarfer ymhen rhai wythnosau ar ôl cael diagnosis.

Dywedodd bod y diagnosis wedi gwneud iddo sylweddoli mai chwarae rygbi yw'r unig beth mae eisiau ei wneud.

"Mae'r diagnosis wedi dangos yn gliriach i mi fy mod i eisiau chwarae rygbi yn unig.

"Roedd methu gwneud unrhyw beth am bythefnos yn dangos i mi beidio cymryd hynny yn ganiataol.

"Byddaf yn cadw llygaid ar y symptomau a siarad gyda'r doctoriaid os mae'r symptomau'n ymddangos eto.

"Dydw i ddim mynd i ddweud celwydd achos fy nghalon i yw e, dydych chi ddim yn gallu cymryd risgiau."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.