Ymchwil newydd i edrych ar y defnydd o 'Wenglish'
Fe fydd gwaith ymchwil newydd gan Brifysgol Glasgow yn edrych ar y defnydd o 'Wenglish' yng Nghymru, a'r ffordd y mae'r Saesneg yn cael ei siarad yn y wlad.
Mae'r ymchwil wedi ei gynnal yn barod gan y brifysgol i ddadansoddi'r defnydd o'r Saesneg yn yr Alban o dan y cynllun Speak for Yersel.
Mae'r astudiaeth yn dod i Gymru a Gweriniaeth Iwerddon, yn y gobaith o fesur y newid mewn defnydd o eiriau Saesneg yn y gwledydd hyn hefyd.
Yr Athro Mercedes Durham a Dr Jonathan Morris ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain ochr Cymru o'r prosiect.
Dywedodd yr Athro Durham, sy’n gweithio yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol: “Er y gallwch ddod o hyd i lawer o restrau ar-lein o eiriau ac ymadroddion Saesneg Cymraeg, nid yw’n gwbl glir ble, a chan bwy, y cânt eu defnyddio.
"Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ddarganfod pa wahaniaethau sydd yn y Saesneg fel y’i siaredir ar draws Cymru, yn ogystal â chadarnhau pa agweddau o ‘Wenglish’ sy’n dal i gael eu defnyddio’n rheolaidd heddiw.”