Ardaloedd diogelu mynediad yn dod i rym ger clinigau erthylu
Fe fydd ardaloedd diogelu mynediad, neu 'buffer zones' yn dod i rym ger clinigau erthylu yng Nghymru o ddydd Iau.
Bydd yr ardaloedd diogelu mewn grym hyd at 150 metr o ddrysau'r clinigau.
O hyn allan, mae’n drosedd i rywun gwneud unrhyw beth sy’n dylanwadu’n fwriadol ar benderfyniad rhywun i ddefnyddio gwasanaethau erthylu.
Fe fydd hefyd yn drosedd i rwystro, achosi aflonyddwch, braw neu drallod i rywun sy’n defnyddio neu’n gweithio yn y clinigau.
Bydd troseddwyr yn wynebu dirwy a fydd yn cael ei benderfynu ar sail manylion y drosedd.
Dywedodd yr heddlu y byddai achosion yn cael eu trin yn unigol ac y bydd erlynwyr yn penderfynu ar fwriad y person sydd yn cyflawni'r drosedd.
Ni fydd gweddïo’n dawel yn yr ardal ddiogelu yn drosedd, er i ymgyrchwyr ddadlau bod gwneud hyn yn gallu cael effaith ar benderfyniad yr unigolyn.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn yn Goron bod person sydd yn gweddïo’n dawel "ddim o'r rheidrwydd yn cyflawni trosedd."
Mae'r Fonesig Diana Johnson, gweinidog trosedd a phlismona Llywodraeth y DU yn "hyderus bydd y camau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu menywod i deimlo'n fwy diogel wrth gael mynediad at y gwasanaethau hanfodol maen nhw eu hangen."
Daeth deddfwriaeth debyg i greu ardaloedd gwrachod tu allan i glinigau erthylu yn yr Alban i rym ym mis Medi tra eu bod wedi bod mewn grym yng Ngogledd Iwerddon ers blwyddyn.
Bydd y ddeddf hefyd yn dod i rym yn Lloegr ddydd Iau.
Llun: PA