Dros 90 o bobl wedi marw yn dilyn y llifogydd yn Sbaen
Mae o leiaf 95 o bobl wedi marw yn nwyrain Sbaen ar ôl i lifogydd ysgubo ceir i ffwrdd, troi strydoedd pentrefi yn afonydd ac amharu ar reilffyrdd a phrif ffyrdd yn y trychineb naturiol gwaethaf i daro’r rhanbarth ers cyn cof.
Cadarnhaodd y gwasanaethau brys yn rhanbarth dwyreiniol Valencia farwolaeth o 62 o bobl ddydd Mercher.
Ychwanegodd swyddfa llywodraeth ganolog rhanbarth Castilla La Mancha fod dynes 88 oed wedi’i chanfod yn farw yn ninas Cuenca.
Achosodd stormydd glaw ddydd Mawrth lifogydd mewn rhannau eang o dde a dwyrain Sbaen, yn ymestyn o Malaga i Valencia.
Roedd llifogydd o ddŵr lliw mwd yn taflu cerbydau i lawr strydoedd ar gyflymder, tra bod darnau o bren yn chwyrlïo yn y dŵr.
Fe ddefnyddiodd yr heddlu a’r gwasanaethau achub hofrenyddion i godi pobol o’u cartrefi a chychod i gyrraedd gyrwyr oedd yn gaeth ar doeau ceir.
Dywedodd Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sanchez, fod dwsinau o drefi wedi dioddef llifogydd.
“I’r rhai sy’n chwilio am eu hanwyliaid, mae Sbaen i gyd yn teimlo’ch poen,” meddai Mr Sanchez mewn anerchiad ar y teledu.
“Ein blaenoriaeth yw eich helpu chi. Rydyn ni’n rhoi’r holl adnoddau sydd eu hangen er mwyn i ni allu gwella o’r drasiedi hon.”