Croesawu cyhoeddiad am gynnydd i bensiynau cyn-lowyr
Bydd dros 100,000 o gyn-lowyr yn derbyn hwb sylweddol i'w pensiynau, wedi i Lywodraeth y DU drosglwyddo £1.5 biliwn i'w cronfa bensiwn.
Daeth y cyhoeddiad yn y Gyllideb ddydd Mercher, fydd yn golygu cynnydd o 32% ym mhensiwn blynyddol 112,000 o gyn-lowyr, gan gynnwys rhai o Dde Cymru.
Ar gyfartaledd, bydd y pensiynwyr yn derbyn cynnydd o £29 yr wythnos.
Mae'n dilyn ymgyrch hir gan y cyn-lowyr a'u teuluoedd, oedd yn dadlau ers blynyddoedd eu bod wedi dioddef anghyfiawnder.
Mae'r arian yn deillio o gronfa gafodd ei sefydlu ym 1992, oedd yn defnyddio elw o'r cynllun pensiwn.
Pan gafodd cwmni British Coal ei breifateiddio ym 1994, cytunodd y llywodraeth i gymryd hanner yr elw o'r cynllun, ar yr amod y byddai'r pensiynau yn cynyddu yn unol â chwyddiant.
Mae'r cynllun wedi parhau i wneud elw sylweddol, er nad ydi'r llywodraeth wedi talu unrhyw arian i mewn i'r gronfa.
Un o'r bobl fu'n galw am newid ers tro ydi Llew Smith, Aelod Seneddol Rhymni a Blaenau Gwent,
"Bydd cyhoeddiad heddiw'n gwneud gwahaniaeth mawr i gymaint o bobl ar hyd a lled y cymoedd, a mae'n enghraifft o Lywodraeth Lafur yn gweithredu ein hegwyddorion er mwyn gwella bywydau," meddai
Y gobaith yw y bydd y pensiwynwyr yn dechrau gweld cynnydd yn eu pensiynau o fis Tachwedd ymlaen.