Dyfodol ffermydd teuluol Cymru 'yn y fantol' wedi newidiadau i reolau treth
Dyfodol ffermydd teuluol Cymru 'yn y fantol' wedi newidiadau i reolau treth
Mae undebau amaethyddol yng Nghymru wedi mynegi pryder am ddyfodol ffermydd teuluol wedi i'r Canghellor gyhoeddi newidiadau i dreth etifeddu yn y Gyllideb.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol gwerth dros £1 miliwn. Mae'r undebau'n dweud y bydd hyn yn cael effaith ar y mwyafrif o ffermydd yng Nghymru, er bod Rachel Reeves wedi honni na fyddai nifer o ffermydd yn gorfod talu'r dreth.
Dywedodd Aled Jones, Llywydd NFU Cymru: "Mae'r newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw nid yn unig yn fygythiad i'n strwythur o ffermydd teuluol, ond hefyd [yn fygythiad] i sicrwydd ein cyflenwad bwyd.
"Jest oherwydd bod fferm deuluol yn edrych fel ased gwerthfawr ar bapur, dydi hynny ddim yn golygu fod y bobl sy'n gweithio yno'n gyfoethog, ac yn gallu talu bil treth mawr.
"Onibai bod Llywodraeth y DU yn ail-ystyried ar frys, rwy'n ofni y byddwn ni'n gweld chwalu ffermydd teuluol."
Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod y cyhoeddiad heddiw'n golygu bod dyfodol nifer o ffermydd Cymru yn y fantol.
Gyda ffermydd Cymru ar gyfartaledd tua 120 erw o faint, dywedodd llywydd yr undeb, Ian Rickman, y byddai hyd yn oed yr amcangyfrif mwyaf ceidwadol yn rhoi gwerth y mwyafrif llethol o ffermydd dros y trothwy o £1 miliwn, fyddai'n golygu y byddai'n rhaid talu treth wrth drosglwyddo tir ac eiddo o un genhedlaeth i'r llall.
"Ar adeg heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion yma'n golgyu ansicrwydd ychwanegol i fusnesau amaethyddol sy'n gwneud eu gorau i gynhyrchu bwyd a gwella'r amgylchedd," meddai.
Dywedodd Aelod Seneddol Ynys Môn, Llinos Medi, byddai'r newid yn cael effaith ddifrifol ar ardaloedd gwledig.
"Rydw i ofn bydd y newid i'r rheolau ar dreth etifeddu yn fygythiad difrifol i ffermydd teuluol Cymreig, sy'n asgwrn cefn economi cefn gwlad," meddai.