Ombwdsmon: Galw ar awdurdodau lleol i 'gydnabod' gofalwyr di-dâl
Mae Ombwdsmon Cymru wedi galw ar awdurdodau lleol Cymru i sicrhau fod gofalwyr di-dâl yn cael eu “cydnabod” ac yn cael gwybod beth yw eu hawliau.
Daw sylwadau Michelle Morris fel rhan o’i hadroddiad diweddaraf ddydd Iau sydd yn canolbwyntio ar anghenion gofalwyr.
Mae’n dweud nad yw nifer o ofalwyr yn cael cefnogaeth gan eu hawdurdod lleol, er bod ganddyn nhw hawl gyfreithiol i dderbyn hynny.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal mewn pedwar awdurdod lleol sef Caerffili, Ceredigion, Fflint a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae rhwng 10% a 12% o’r boblogaeth yno wedi dweud eu bod yn ofalwyr di-dâl, yn ôl Cyfrifiad 2021.
Mae gan ofalwyr yr hawl i ‘asesiad o anghenion’ os yw’n ymddangos bod ganddynt anghenion cymorth, neu os ydynt yn debygol o fod ag anghenion yn y dyfodol.
Ond dim ond 2.8% o ofalwyr yn yr awdurdodau lleol dan sylw oedd wedi cael asesiad o'u hanghenion, a dim ond 1.5% a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth, meddai’r Ombwdsmon.
'Cefnogi'
Mae'r Ombwdsmon bellach wedi cyflwyno cyfres o argymhellion er mwyn sicrhau bod gofalwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Fel rhan o hynny mae’n dweud bod rhaid i awdurdodau lleol adnabod gofalwyr “yn gynnar,” gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth cyn iddyn nhw “gyrraedd pwynt argyfwng.”
Dywedodd fod ei hargymhellion yn briodol i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, nid yn unig y pedwar oedd yn rhan o’r ymchwiliad.
Dywedodd hefyd bod yn rhaid monitro ansawdd a chysondeb asesiadau o anghenion gofalwyr “yn well” a bod angen dulliau gwell o gasglu data a defnyddio data cydraddoldeb.
Mae’n galw hefyd ar awdurdodau lleol Cymru i sicrhau bod eu staff – yn ogystal â staff sydd wedi’i gomisiynu gan sefydliadau eraill – wedi eu hyfforddi’n briodol er mwyn cefnogi gofalwyr.
“Dylent gael eu cefnogi yn eu rôl trwy ddarparu atal ac ymyrraeth gynnar i sicrhau y gall eu cyfraniad at ofal cymdeithasol barhau, os ydynt yn dymuno hynny.
“Ni ddylai gofalu fod ar draul iechyd a llesiant y gofalwr. Ac ni ddylid ond rhoi cymorth pan fydd argyfwng eisoes wedi'i gyrraedd, ychwaith,” meddai Michelle Morris.
'Croesawu'
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd y Gynghorydd Elaine Forehead, sef Aelod Cabinet Caerffili dros Ofal Cymdeithasol bod y cyngor yn “derbyn” canfyddiadau’r Ombwdsmon.
“Rydym yn cydnabod cyfraniad amhrisiadwy gofalwyr yn ein cymuned ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi."
Dywedodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig cyfleoedd a gwasanaethau er mwyn cefnogi gofalwyr trwy gydol y sir, gan gynnwys digwyddiadau sydd wedi’i ariannu gan grantiau.
“Mae’r adroddiad yn cydnabod fod yna arferion da ym mhob un o’r pedwar awdurdod lleol oedd yn rhan o’r ymchwiliad, ac yn cynnig argymhellion ar gyfer dysgu a datblygu i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru,” meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn “croesawu” argymhellion yr Ombwdsmon er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl yn gwella yn y dyfodol.
Dywedodd bod y cyngor wedi “ymrwymo” i weithredu mewn modd a fyddai’n arwain at “wellhad” ac y byddai’n cysylltu’n uniongyrchol a’r Ombwdsmon er mwyn ei diweddaru.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Fel Cyngor, roeddem eisoes wedi cychwyn ar y broses o gryfhau a gwella cymorth i ofalwyr… gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd gofalwyr di-dâl yn y byd gofal cymdeithasol.
“Mi fydd y Cyngor yn gweithio tuag at weithredu argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel rhan o'r gwaith parhaus yma.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Sir y Fflint am ymateb.
'Hollbwysig'
Dywedodd yr Ombwdsmon fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi “bwrw ymlaen” gyda’r gwaith o weithredu er mwyn mynd i’r afael a’r problemau y mae hi wedi canfod.
Wrth ymateb i’w adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn “hollbwysig” fod gofalwyr di-dâl yn derbyn y wybodaeth, cymorth a’r gwasanaethau maen nhw eu hangen heb unrhyw oedi.
Dylai gofalwyr di-dâl hefyd cael cynnig asesiad o'u hanghenion nhw pan fyddai hynny’n briodol, meddai.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a phartneriaid ehangach er mwyn mynd i’r afael a’r problemau yn y sector.