Teyrnged i fenyw fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
Mae teulu menyw oedd yn "mwynhau bywyd" wedi rhoi teyrnged iddi wedi ei marwolaeth mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.
Bu farw Nicola Webb o Beniel mewn gwrthdrawiad gyda char Volkswagen du tra oedd hi ar gefn ei beic modur ar yr A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri ddydd Sul.
Dywedodd ei theulu y bydden nhw'n ei cholli hi.
"Roedd Nicola yn berson oedd yn mwynhau bywyd a phob dim roedd hi'n gwneud," medde nhw mewn datganiad ddydd Mercher.
"O gerdded gyda'i chŵn neu gyda ffrindiau i reidio beiciau modur.
"Yn drist iawn fe gollodd ei bywyd yn gwneud rhywbeth roedd yn mwynhau'n fawr, reidio ei beic modur i gwrdd â ffrindiau a chael coffi a rol bacwn.
"Bydd ei cholled yn cael ei theimlo gan bawb oedd yn ei adnabod a'i charu."
Ychwanegodd ei theulu eu bod yn diolch i bawb wnaeth geisio achub Nicola ac sydd wedi danfon eu cydymdeimladau atynt.
Mae ymholiadau'r heddlu'n parhau ac maen nhw wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a oedd yn teithio ar hyd y ffordd yn ystod amser y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd o’r cerbydau i gysylltu gyda nhw.
Llun: Heddlu Dyfed-Powys