Newyddion S4C

Ai tafarn yng Nghymru yw’r 'fwyaf dychrynllyd' yn y byd?

31/10/2024

Ai tafarn yng Nghymru yw’r 'fwyaf dychrynllyd' yn y byd?

Mae tafarn yng Nghymru wedi denu ymwelwyr o’r Unol Daleithiau a Japan dros y blynyddoedd– ac hynny am bod rhai'n credu mai dyma'r dafarn “fwyaf dychrynllyd” yn y byd. 

Dyma farn un arbenigwr ar y byd paranormal, sy'n dweud fod tafarn The Prince of Wales ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gartref i rai o ysbrydion yr ardal. 

Fe ddaeth yr hen dafarn ym mhentref Cynffig yn fyd-enwog ymhlith arbenigwyr ym maes y goruwchnaturiol adeg yr 1980au hwyr, esboniodd Mark Rees wrth siarad â Newyddion S4C. 

Roedden nhw’n dweud ar y pryd fod y dafarn yn gartref i’r goruwchnaturiol, gan gynnwys ysbryd bachgen ifanc a fu farw y tu allan i’r adeilad. 

Ac ar drothwy noson Calan Gaeaf, mae’r newyddiadurwr ac awdur o Bort Talbot yn credu fod ysbrydion yn parhau yn yr adeilad.

Image
The Prince of Wales
Tafarn The Prince of Wales, Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr

Hanes

“Yn ystod y 1970au hwyr, roedd theori newydd o’r enw ‘Stone Tape’ wedi dod i’r amlwg,” esboniodd Mark Rees. 

Yn ôl y ddamcaniaeth hon, roedd yn bosib i ysbrydion fod yn bresennol y tu fewn i waliau hen adeiladau, meddai. 

“Roedd y landlord ar y pryd wedi dweud ei fod yn gallu clywed sŵn organ yn canu yn ystafell Neuadd y Dref lan llofft pan oedd yr ystafell ar gau ac wedi’i chloi am y noson. 

“Roedd y seiniau yma yn ymddangos fel eu bod yn dod o’r waliau. Roedd yr ystafell wedi cael ei defnyddio ar gyfer Ysgol Sul ar un adeg, felly roedd yn rhywle y byddai organ yn cael ei defnyddio. 

“Fe benderfynodd arbenigwyr ymchwilio ac fe wnaethon nhw recordio seiniau organ yn canu yn ogystal â lleisiau oedd yn siarad rhyw fath o Gymraeg hynafol.

“Roedd y stori wedi lledaenu – o America i Japan, roedd pobl wedi dod i’r Prince of Wales er mwyn profi’r damcaniaeth.”

Image
Arbrofi
Arbenigwyr yn cynnal profion ar waliau ystafell Neuadd y Dref, 23 Awst 1982

Ysbrydion

Roedd tafarn The Prince of Wales yn enw cyfarwydd i nifer adeg yr 80au o ganlyniad. 

Mae llawer llai o bobl yn gwybod am yr hanes y dyddiau hyn, meddai Mr Rees, ond mae’n credu fod yr ysbrydion yn parhau yn yr adeilad. 

“Maen nhw’n dal yn dweud bod yr ystafell yma yn haunted,” meddai wrth gyfeirio at ystafell Neuadd y Dref. 

“Yn ôl hen landlord, mae ysbryd bachgen bach yn ymddangos o flaen cwpwrdd yng nghornel y stafell. 

“Mae’r stori yn dweud bod menyw o’r gymuned yn dod â’r plant i’r Ysgol Sul gyda cheffyl a cart.

“Ond ‘nath rhywbeth sbwcio’r ceffyl a fflipiodd y cart drosodd a cafodd plentyn – y boi bach ‘ma – ei ladd.”

Image
Cwpwrdd

'Digwyddiadau dychrynllyd'

Ystafell Neuadd y Dref oedd yn fwyaf adnabyddus am ei chysylltiad â r goruwchnaturiol, ond dywedodd Mark Rees ei fod ar ddeall bod digwyddiadau “dychrynllyd” bellach yn cymryd lle trwy y tafarn. 

Fel rhan o’i waith ymchwil blaenorol, dywedodd ei fod wedi siarad â chyn-berchennog y dafarn, Gareth Maund, ag yntau wedi disgrifio sut cafodd jygiau eu taflu oddi ar y wal yn y gegin. 

Mae Dave Stone bellach wedi bod yn berchennog y dafarn ers 2018, ag yntau wedi dweud fod ef a’i staff wedi profi rhai digwyddiadau rhyfedd hefyd. 

Roedd y profiadau rheiny’n cynnwys offer coginio yn cael ei daflu oddi ar waliau’r gegin yn ogystal â  gwydrau gwin yn atseinio oddi ar ei gilydd “heb reswm.” 

Roedd un aelod o staff hefyd wedi honni ei bod wedi gweld ysbryd ci yn eistedd wrth ochr y bar.

“Os ydych chi’n siarad gyda'r landlordiaid sydd wedi bod yma ar hyd y blynyddoedd, mae’r paranormal activity wedi parhau heb amheuaeth," meddai Mark Rees.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.