Newyddion S4C

Gwrthdrawiad trên Llanbrynmair: Agor cwest i farwolaeth dyn 66 oed

30/10/2024
Tudor Evans

Mae cwest wedi agor i farwolaeth dyn 66 oed fu farw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau drên ger Llanbrynmair.

Roedd David Tudor Evans o Gapel Dewi yn teithio ar drên o'r Amwythig i Aberystwyth pan darodd dau drên ar y traciau.

Roedd yn teithio adref o'i wyliau yn yr Eidal ar y pryd.

Cafodd pedwar arall eu hanafu yn ddifrifol yn y digwyddiad ar 21 Hydref ar y llinell y Cambrian.

Roedd 41 o deithwyr ar y ddau drên ar y pryd.

Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad gan Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) a’r Heddlu Trafnidiaeth yn parhau.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae tystiolaeth ger safle'r gwrthdrawiad yn awgrymu y gallai olwynion un o'r trenau o bosibl fod wedi llithro wrth frecio.

'Dyn hapus iawn'

Dywedodd Iestyn Leyshon, y gwerthwr tai o Aberystwyth ac yn gyfaill i David Tudor Evans, ei fod yn “drist ofnadwy” clywed am beth oedd wedi digwydd i’w ffrind.

Roedd yn nabod Tudor Evans ers 20 mlynedd, meddai, ond dim ond wedi dod i’w nabod yn iawn yn y pedair blynedd diwethaf wrth reidio beics mynydd gydag o.

“Mae’n boenus iawn meddwl ei fod e a’i wraig newydd ddechrau teithio ar ôl blynyddoedd o waith a bod y trychineb yma wedi digwydd,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Welwn ni ddim o fe ar ei feic ar yr Elenydd rhagor.”

ImageImage removed.

Ychwanegodd: “Fe fyddwn i gyda fe'r wythnos hon achos roedd e wedi gofyn am gael gweld y camperfan unwaith oedd e’n dod yn ôl o wylie.

“Roedd yn cadw ei hunan at ei hunan ond yn ddyn hwylus iawn unwaith oeddech chi’n dod i’w nabod e.

“Doedd dim angen bod yng nghanol crowd o bobol, roedd e’n gwmni gorau dy hunan gyda fe.

“Dyn hapus iawn i roi ei amser a’i gyngor i chi ac roedd cyngor da ‘da fe.

“Roedd yn ddyn trefnus iawn gyda phopeth yn ei le. Fe fyddai yn golchi ei feic i lawr, prepo, paratoi route a phopeth.”

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.