Newyddion S4C

Dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Cob

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar Ynys Môn. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad un car ar ffordd yr A5 rhwng Y Fali a Chaergybi, yn ardal Y Cob, rhywbryd rhwng 23:00 nos Sadwrn a 00.14 fore dydd Sul. 

Cafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw'n ddiweddarach.

Mae ei theulu wedi cael gwybod. 

Mae’r Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd yn apelio am dystion. 

Dywedodd mewn datganiad fore dydd Sul: “Rwy’n annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd, unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd Citroen C3 du yn cael ei yrru yn yr ardal rhwng yr amseroedd hyn, i gysylltu â ni.

“Rwyf hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd efallai â lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera dash o’r cerbyd i gysylltu.

“Mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes ar yr amser anodd iawn hwn, sy’n cael eu cefnogi gan swyddogion.”

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd dros y we, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C080296.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.