Newyddion S4C

Sefydlu ffatrioedd arfau newydd mewn ymdrech i ail-arfogi

Amddiffyn

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi nifer o fuddsoddiadau newydd i droi’r lluoedd arfog yn “beiriant ymladd aruthrol, integredig” fel rhan o adolygiad amddiffyn y Llywodraeth.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n buddsoddi mewn cyfarpar milwrol sy’n “fwy integredig, yn fwy parod, yn fwy marwol nag erioed”.

Fel rhan o'r adolygiad, sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, mae'r Llywodraeth wedi addo £1.5 biliwn i sefydlu o leiaf chwe ffatri, a bydd yn cefnogi gwariant ar hyd at 7,000 o daflegrau fydd wedi eu hadeiladu yn y DU.

Mae’r cam hwn mewn ymateb i'r adolygiad amddiffyn sydd yn galw am gynyddu'r capasiti cynhyrchu arfau fydd ar gael yn ôl y galw ac heb rybudd, ac y gellid ei gynyddu’n gyflym.

Bydd y cyllid newydd yn gweld gwariant ar arfau milwrol y DU yn cyrraedd £6 biliwn yn ystod y Senedd hon ac yn cefnogi tua 1,800 o swyddi.

'Twf economaidd'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey y byddai’r Llywodraeth yn croesawu argymhellion yr adolygiad amddiffyn ac yn gwneud amddiffyn yn “beiriant ar gyfer twf economaidd”.

Fe fydd yn annog y Weinyddiaeth Amddiffyn i osod y seiliau diwydiannol i hybu pentyrru arfau er mwyn ateb y galw am ymladd ar sail “tempo uchel”.

Bydd mwy na £1.5 biliwn o arian ychwanegol yn mynd i gartrefi milwrol mewn ymateb i'r adolygiad.

Bydd yr arian yn cael ei wario ar atgyweiriadau brys fel gosod boeleri a thoeau, gan gynnwys mynd i'r afael â lleithder mewn cartrefi milwrol.

“Mae ein lluoedd yn gwneud aberthau rhyfeddol i’n cadw ni’n ddiogel ac i wasanaethu’r wlad hon ac eto ers blynyddoedd, rydyn ni wedi gorfodi eu teuluoedd i fyw mewn cartrefi o safon isel” meddai Mr Healey ar ymweliad â llety milwrol yn Sir Gaergrawnt.

Beirniadodd y Ceidwadwyr y buddsoddiad mewn ffatrïoedd arfau fel un oedd yn rhy araf.

Dywedodd ysgrifennydd amddiffyn yr wrthblaid, James Cartlidge, fod y Canghellor wedi defnyddio’r adolygiad amddiffyn i “rewi” penderfyniadau ar gyfer cyfarpar milwrol newydd.

Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.