Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu rhan o Wrexham Lager
Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi cyhoeddi eu bod bellach yn gyd-berchnogion Wrexham Lager.
Mewn fideo ar blatfform X (Twitter gynt) cyhoeddodd y sêr Hollywood eu bod wedi prynu rhan o'r busnes enwog.
Dywedodd Mr Reynolds a Mr McElhenney ar y cyd eu bod yn gyffrous i fod yn berchnogion ochr yn ochr â'r teulu Roberts.
"Rydym wedi dysgu llawer fel cyd-berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam," medden nhw.
"O'r cysylltiad rhwng y clwb a'r gymuned, cymhlethdodau'r rheol camsefyll a'r angen i yfed cwrw o dro i dro - yn enwedig ar ôl cyfarfodydd ariannol.
"Mae gan Wrexham Lager hanes sydd werth ei ddathlu ac rydym yn gyffrous iawn i gyfrannu at y bennod nesaf."
Mae gan Wrexham Lager y bragdy gweithredol hynaf ym Mhrydain Fawr, ac wedi bod yn bragu eu cwrw ers 1882.