Newyddion S4C

Y Gyllideb: £25 miliwn wedi ei addo i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru

30/10/2024
Pwll Glo Pendyrus

Fe fydd £25 miliwn o arian ychwanegol ar gael er mwyn diogelu tomenni glo yng Nghymru fel rhan o Gyllideb y Llywodraeth Lafur.

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves ddydd Mercher y byddai’r arian ychwanegol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru “er mwyn cadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Yn ôl data’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd, mae dros 2,500 o domenni glo segur yng Nghymru.

Mae’r mwyafrif ohonynt yn “annhebygol iawn” o achosi niwed i’r cyhoedd, ond mae 85 wedi eu rhoi yn y categori fwyaf difrifol. 

Mae'r rhain “â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd”, ac angen eu harchwilio o leiaf dwywaith y flwyddyn, meddai’r Llywodraeth.

Yn Rhondda Cynon Taf (29), Merthyr Tudful (15) a Chastell-nedd Port Talbot (13) mae’r rhan fwyaf o’r tomenni yma.

Mae 275 o domenni ychwanegol hefyd angen eu harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn, oherwydd y “potensial” o effeithio ar ddiogelwch.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr Aelod Senedd Plaid Cymru, Delyth Jewell ar gyfrwng cymdeithasol X: "Felly mae San Steffan o'r diwedd wedi addo arian ar gyfer diogelwch tomenni glo. Ond mae'r arian sydd wedi ei addo angen cael ei gynyddu.

"Tomenni glo yw gwaddol o sut y cafodd ein cymunedau eu hecsbloetio. Ni ddylai ein cymoedd wedi cael eu gadael gyda nhw, heb sôn am dalu tuag at eu diogelu."

Yn Chwefror 2020, fe wnaeth glaw trwm a stormydd achosi tirlithriad mewn tomen glo segur ym Mhendyrys, yng Nghwm Rhondda. 

Fe wnaeth hynny arwain at sefydlu Tasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y gorffennol y bydd angen o leiaf £500 i £600 miliwn dros y 10 i 15 mlynedd nesaf er mwyn diogelu rhag tirlithriadau pellach yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.