Ymgyrch i dargedu dronau sy'n cludo 'deunydd gwaharddedig' i Garchar y Parc
Mae Heddlu De Cymru wedi cynnal ymgyrch “lwyddiannus” i fynd i’r afael â dronau sydd yn cludo “deunydd gwaharddedig” fel cyffuriau ac arfau i Garchar y Parc.
Mae dronau yn cael eu defnyddio’n gynyddol gan droseddwyr er mwyn gollwng eitemau i mewn i safleoedd carchardai yn y DU.
Mae’r llu yn dweud bod ymgyrch ar y cyd gyda chwmni G4S, sydd yn rheoli’r carchar ym Mhen-y-bont, wedi llwyddo i atafaelu eitemau sydd wedi eu cludo yno yn anghyfreithlon, cyn bod modd iddyn nhw “wneud niwed i’r boblogaeth yn y carchar.”
Mae’r heddlu hefyd yn annog i bobl sydd yn byw yn agos i garchardai i adrodd unrhyw achosion o dronau yn hedfan yn agos i’r safleoedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Karl Stephens o Tarian, yr uned sy’n gyfrifol am droseddau trefnedig yn ne Cymru: “Mae troseddwyr trefnedig yn benderfynol o gael cyffuriau, arfau, ffonau ac eitemau anghyfreithlon eraill i safleoedd carchardai.
“Rydym yn mynd ar ôl unrhyw un sy’n ceisio achosi niwed i’r carchardai a’u poblogaethau yn ein rhanbarth, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i greu amgylcheddau diogel ar gyfer adsefydlu cymunedau’r carchardai.
“Rwy’n annog aelodau o’r cyhoedd sy’n byw neu’n gweithio ger carchardai i roi gwybod am unrhyw achosion posibl o weld dronau dros ystadau carchardai.
“Rwyf hefyd yn apelio ar garcharorion, cyn-garcharorion, a theuluoedd carcharorion i adrodd am y math hwn o drosedd fel y gallwn gydweithio i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed.”
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc: “Mae gan G4S fesurau cadarn yn eu lle i fynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i Garchar Parc.
“Rydym yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a Tarian i ddarparu cudd-wybodaeth a thystiolaeth pan fydd unrhyw un yn ceisio dod â chontraband i'r carchar.”