Newyddion S4C

‘Pryder ac ansicrwydd’ am ddyfodol gwaith cymunedol Menter Môn

‘Pryder ac ansicrwydd’ am ddyfodol gwaith cymunedol Menter Môn

Mae yna "bryder ac ansicrwydd" am ddyfodol gwaith cymunedol Menter Môn yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni. 

Wedi i'r cwmni golli ei brif ffynhonnell o gyllideb ym mis Mehefin 2023, sef arian o Ewrop, mae wedi bod yn gyfnod o ansicrwydd yn ôl Dafydd Gruffydd. 

"Ddoth pres Ewrop i ben ym Mehefin y llynedd a wedyn mi oedd hwnnw yn her i ni fel mudiad i sicrhau bo' ni’n gallu parhau i weithredu tu allan i Ewrop," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma genna ni rai cynllunia sydd yn hirdymor bellach, ma' 'na sefydlogrwydd efo’n cynlluniau ynni ni ond y cynllunia' sydd falla fwya bregus rŵan ydy cynlluniau sydd yn fwy cymunedol eu naws."

Mae'r cynlluniau cymunedol yn cael eu hariannu yn helaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a menter ARFOR gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae ansicrwydd am ddyfodol y prosiectau hyn gyda disgwyl y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn dirwyn i ben ym mis Rhagfyr 2024 a chyfraniad ARFOR yn gorffen tri mis yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2025. 

Sefydlwyd Menter Môn ym 1996 fel rhan o gynllun LEADER yr Undeb Ewropeaidd oedd yn datblygu datrysiadau i heriau cefn gwlad. 

Mae'r cwmni yn canolbwyntio yn bennaf ar weithgaredd ym Môn a Gwynedd, ac yn gweithredu o fewn tri maes gwahanol, sef yr economi, ynni a'r gymuned. 

Erbyn heddiw, mae dros 80 o bobl yn gweithio i'r cwmni, ond mae'r sefyllfa ariannol bresennol dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol.

'Heriol'

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Er bo' ni wedi goresgyn gadael Ewrop, ma' 'na lawer mwy o ansicrwydd, ma’r cynlluniau yn dymor byr felly ma' hwnna’n cael effaith ar sut ma’r cwmni yn rhedeg a chynllunio i'r dyfodol.

"Mae o’n heriol... achos ma' cynlluniau ystyrlon sydd yn neud gwahaniaeth yn cymryd blynyddoedd i ddatblygu a gweithredu. Ond os 'da chi ond yn cael pres am flwyddyn neu ddwy, mae o’n newid eich ffocws chi a 'da chi’n edrych wrth eich traed yn amlach na fasa chi yn edrych at y gorwel."

Er bod y cwmni wedi ehangu ei bortffolio bellach er mwyn creu incwm gan gynnwys cynllun ynni llanw Morlais, mae'r gwaith cymunedol yn parhau yn greiddiol ac yn ganolog i'r cwmni yn ôl Mr Gruffydd.

"Mae o’n bryder o ran yn amlwg 'dan ni’n gweithredu yn y maes ynni bellach a datblygiad economaidd ond ma’n henaid ni yn y gwaith cymunedol," meddai.

"Er bo' ni yn datblygu cynllun ynni hynod gyffrous efo Morlais, dim cwmni ynni ydy Menter Môn ond cwmni sydd yn ceisio datblygu cymunedau ag yn defnyddio’r adnoddau lleol er mwyn caniatáu i ni neud hynny felly ma’n bwysig bo ni'n cynnal y gwaith cymunedol yma achos fel arall fyddan ni jyst yn gwmni ynni a dim dyna ydy Menter Môn.

"'Dan ni’n gobeithio creu incwm allan o’r cynlluniau ynni er mwyn cynnal y gwaith cymunedol."

'Gwireddu ar lawr gwlad'

Er bod Mr Gruffydd yn weddol hyderus bod dyfodol Menter Môn yn ddiogel, mae'r ansicrwydd ynghylch yr elfen gymunedol yn peri pryder i'r cwmni. 

"Ma' Menter Môn fel cwmni yn eithaf diogel dwi’n licio meddwl, ond ar hyn o bryd ma' 'na ansicrwydd o fewn y portffolio cymunedol. Mae 'na gynllunia yna, rhai sy’n rhedeg am ddwy neu dair blynedd ond ma' llawer o’r gwaith ar hyn o bryd yn cael ei ariannu trwy gynlluniau fel yr SPF ac ARFOR," meddai. 

"Yn fan 'na mae’r ansicrwydd, felly ma' hynna yn achosi pryder ar hyn o bryd. Dwi’n gobeithio fydd 'na eglurder dros y tri i chwe mis nesaf o ran eu parhad nhw ond yn amlwg ma' rhain yn gronfeydd sylweddol o ran gwariant a wedyn tasa rheini yn dod i ben, yn amlwg ma’n mynd i gael effaith ar ein gallu ni i wireddu ar lawr gwlad.

"Mi fydd y gweithgaredd yn mynd ymlaen ond fydd ystod a dyfnder y gweithgaredd ddim yn medru parhau fel mae o ar hyn o bryd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.