
'£1.7 biliwn ychwanegol' i Gymru o Gyllideb y Canghellor
Mae manylion y Gyllideb gyntaf i Ganghellor Llafur ei chyhoeddi mewn 14 o flynyddoedd wedi eu datgelu yn Nhŷ'r Cyffredin brynhawn dydd Mercher.
Er na fydd cynnydd mewn treth incwm nac yswiriant cenedlaethol i bobl, cyhoeddodd Ms. Reeves y bydd trethi eraill yn cynyddu £40 biliwn er mwyn mynd i'r afael a'r "twll du" yng nghyllid y wlad.
Bydd rhan helaeth o'r arian yna'n dod o gynyddu taliadau yswiriant cenedlaethol cyflogwyr. Ond honodd Ms. Reeves na fyddai hynny'n effeithio ar y mwyafrif o fusnesau bychain.
Byddai'r Gyllideb hefyd yn darparu £1.7 biliwn ychwanegol i Gymru drwy fformiwla Barnett, meddai, wrth iddi gyhoeddi cynnydd mewn gwariant ar ysgolion ac ysbytai yn Lloegr.
Trethi
Yn ei haraith dywedodd Rachel Reeves nad oedd yn rhesymol i gynyddu treth tanwydd o achos sefyllfa'r economi, gan olygu y byddai'n "rhewi" prisiau'r flwyddyn nesaf.
Fe gyhoeddodd hefyd na fyddai cynnydd mewn treth incwm, treth ar werth ag Yswiriant Gwladol i weithwyr chwaith - ond y byddai cynnydd mewn cyfraniad cyflogwyr at daliadau Yswiriant Gwladol o 13.8% i 15%.
Byddai treth newydd ar hylif fêps yn dod i rym o fis Hydref 2026, a chynydd o 10% mewn treth ar dybaco llac hefyd.
Byddai gostyngiad yn y dreth ar gwrw pwmp mewn tafarndai o 1.7% - sef ceiniog yn llai ar bob peint, meddai.
Cafodd y cyhoeddiad hwnnw groeso swnllyd a brwd gan yr aelodau seneddol yn y siambr.
Dywedodd Ms Reeves hefyd y byddai treth enillion cyfalaf ('capital gains tax') - sy'n cael ei dalu ar elw o asedau fel buddsoddiadau neu ail gartrefi, yn cynyddu i 18% (o 10%) ar y gyfradd isaf a 24% (o 20%) ar y gyfradd uchaf.
Cynllun pensiwn glöwyr
Mae'r Canghellor hefyd wedi cael gwared ar drefniant dadleuol a welodd y Llywodraeth yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd o gynllun pensiwn i löwyr.
Y gred yw y bydd y newid yn golygu bod cyfanswm o tua £1.5bn yn cael ei drosglwyddo i gronfeydd pensiwn 112,000 o gyn-löwyr.
Roedd gan y llywodraeth hawl i hanner yr arian oedd dros ben o dan gytundeb gafodd ei arwyddo 30 mlynedd yn ôl.

Cyn y Gyllideb, roedd pryderon y gallai newidiadau i dreth etifeddiant effeithio ar deuluoedd amaethyddol y wlad, a rheolau treth ar etifeddiaeth.
Dywedodd Ms Reeves y byddai'n ymestyn y cyfnod o beidio newid y trothwy treth etifeddiant am ddwy flynedd arall hyd at 2030.
Mae hynny’n golygu y bydd modd etifeddu’r £325,000 cyntaf o unrhyw ystâd yn ddi-dreth, gan godi i £500,000 os yw’r ystâd yn cynnwys cartref sy'n cael ei drosglwyddo i ddisgynyddion uniongyrchol.
Ychwanegodd y byddai'n diwygio'r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes.
O fis Ebrill 2026, bydd yr £1m cyntaf o asedau busnes a busnesau amaethyddol yn parhau i fod yn rhydd o dreth etifeddiant yn llwyr.
Iawndal sgandalau
Cyhoeddodd y byddai'r Llywodraeth yn clustnodi £11.8 biliwn o iawndal ar gyfer pobl oedd wedi dioddef o ganlyniad i'r sgandal gwaed heintiedig, a £1.8 biliwn fel iawndal i ddioddefwyr sgandal Horizon Swyddfa'r Post.
Ychwanegodd mai'r rhagolygon ar gyfer chwyddiant yn y blynyddoedd i ddod fyddai 1.1% yn 2024, 2.0% yn 2025, 1.8% yn 2026, 1.5% yn 2027, 1.5% yn 2028, a 1.6% yn 2029.
'Torri addewidion'
Wrth ymateb ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Rishi Sunak fod y Llywodraeth "wedi torri addewid ar ol addewid" wrth gynyddu trethi a lefelau benthyg.
"Wnaeth y Blaid Lafur ddim dweud y gwir, a phobl sy'n gweithio yn y wlad yma fydd yn dioddef," meddai.
Pwyslais neges y Canghellor oedd bod y cyfnod o gynni ariannol o dan y Ceidwadwyr wedi dod i ben, ond nid oedd ei chyhoeddiad yn fêl i gyd.
Mewn araith barodd 77 munud, dywedodd Ms Reeves fod y wlad wedi pleidleisio dros newid yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, gan feirniadu cynlluniau economaidd y llywodraeth flaenorol.
Dywedodd fod ei “chred ym Mhrydain yn llosgi’n ddisgleiriach nag erioed” ond “yr unig ffordd i sbarduno twf economaidd oedd buddsoddi, buddsoddi, buddsoddi”.