Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth baban pedwar mis oed yn Sir Benfro

30/10/2024
clunderwen

Mae cwest i farwolaeth baban pedwar mis oed a fu farw yn ei gartref yn Sir Benfro wedi ei agor a’i ohirio.

Bu farw Kali Creed Green yng Nghlunderwen ar 8 Hydref, ar ôl i'r heddlu gael eu galw i eiddo yn y pentref wedi pryderon am les y bachgen.

Fe gafodd dyn 23 oed a dynes 19 oed eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau â’u hymholiadau.

Cafodd cwest i farwolaeth y bachgen ei agor gan grwner cynorthwyol Sir Benfro Gareth Lewis ddydd Mercher.

Dywedodd swyddog y crwner PC Carrie Sheridan bod y farwolaeth wedi ei gadarnhau yn y fan a'r lle, "er gwaethaf ymdrechion gorau" y parafeddygon oedd yn bresennol.

Fe ychwanegodd: “Cafodd post-mortem ei gynnal; nid yw’r canlyniadau’n hysbys ar hyn o bryd.”

Cynigiodd Mr Lewis ei gydymdeimlad â theulu Kali a gohiriodd y cwest er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Mae’r gwrandawiad nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 11 Ebrill 2025.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.