Dau yn yr ysbyty ar ôl tân yn iard longau tanfor niwclear y DU
Mae dau o bobl yn yr ysbyty ar ôl tân mawr yn iard longau tanfor niwclear y DU yn Cumbria.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i iard longau BAE Systems yn Barrow-in-Furness, lle mae llongau tanfor niwclear y DU yn cael eu hadeiladu, am tua 00:44 fore Mercher.
Dywedodd yr heddlu nad oes perygl o lygredd niwclear.
Mae pobl leol yn cael eu cynghori i aros yn eu cartrefi a chau ffenestri a drysau.
Mae lluniau a gafodd eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos fflamau mawr a mwg trwchus yn dod o gyfeiriad adeilad tal gwyn.
Dywedodd yr heddlu fod prif gyfleuster adeiladu'r safle wedi cael ei wagio a bod pawb oedd tu fewn wedi cael eu darganfod yn ddiogel.