Newyddion S4C

Dyfarnwyr pêl-droed Caerdydd yn gwrthod camu i'r cae

30/10/2024
Dyfarnwr pêl-droed

Mae Cymdeithas Dyfarnwyr Caerdydd wedi cyhoeddi na fydd eu haelodau yn dyfarnu gemau pêl-droed ar benwythnos 2/3 Tachwedd oherwydd pryder am ymddygiad afreolus.    

Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol, honnodd y gymdeithas fod dyfarnwr wedi dioddef ymosodiad yn ddiweddar. 

"Ni all yr ymddygiad sy'n dirywio ar ac oddi ar y cae barhau," meddai'r datganiad. 

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y weithred ddigynsail hon yn anfon neges glir." 

Ychwanegodd y gymdeithas eu bod yn gwneud safiad yn erbyn "pob math o gamdriniaeth" yn erbyn swyddogion.  

"Mae ein meddyliau yn parhau gydag un o'n haelodau wedi digwyddiadau'r penwythnos diwethaf, " meddai'r gymdeithas.

Bydd safiad y dyfarnwyr yn effeithio ar Gynghrair Caerdydd a'r Fro i oedolion, Cardiff Combination, a Chynghrair y Sul - Lazarou Caerdydd.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.