Newyddion S4C

'Mwy o arian yn eich poced'? Beth fydd yn cael ei gynnwys yn y Gyllideb?

30/10/2024
Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer a'r Canghellor Rachel Reeves

Mae'r Canghellor Rachel Reeves wedi addo "mwy o arian yn eich poced" wrth iddi gyhoeddi'r Gyllideb ddydd Mercher.

Hi yw'r fenyw gyntaf i ddal y rôl Canghellor ac mae disgwyl iddi gyhoeddi cynlluniau i godi trethi a gwella rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ogystal mae disgwyl y bydd y lluoedd arfog yn derbyn £3 biliwn mewn arian ychwanegol.

Cyn y cyhoeddiad, dywedodd Rachel Reeves: "Mwy o arian yn eich poced. Gwasanaeth Iechyd sydd yno pan rydych chi ei angen. 

"Economi sydd yn tyfu, gan greu cyfoeth a chyfleoedd i bawb. Oherwydd dyna'r unig ffordd i wella safonau byw."

Sut felly bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnoch chi?

Trethi uwch

Ers rhai misoedd mae'r Llywodraeth Lafur wedi dweud bod angen iddyn nhw wneud "penderfyniadau anodd."

Mae'n debygol y bydd y Canghellor yn parhau gyda phenderfyniad y Llywodraeth Geidwadol flaenorol i rewi lefelau treth incwm a'r trothwy yswiriant gwladol.

Fel arfer mae'r rhain yn symud gyda lefel chwyddiant, ond penderfynodd y Llywodraeth Geidwadol eu rhewi yn 2022.

Roedd cynlluniau i'w codi eto yn 2028 ond mae Rachel Reeves eisiau parhau i'w cadw ar yr un lefel tan yr etholiad nesaf.

Pan mae'r rhain wedi rhewi mae mwy o bobl yn talu trethi uwch gan fod eu cyflog yn codi uwchben y trothwy, sydd ddim yn codi fel mae eu cyflogau.

Bydd mwy o bobl felly yn talu treth incwm uwch ac yn talu mwy o yswiriant gwladol.

Cyflogwyr yn talu mwy

Mae'n debygol y bydd angen i gyflogwyr dalu mwy o arian yswiriant gwladol i'w gweithwyr.

Fe fyddai hyn yn golygu bod cyflogwyr yn cyfrannu mwy o arian i daliadau yswiriant gwladol i'w gweithwyr, sydd ar hyn o bryd yn 13.8%.

Nid yw cyflogwyr yn talu'r yswiriant gwladol ar gyfraniadau pensiwn eu staff ar y funud, ond fe allai hyn newid.

Mae cyflogwyr yn dadlau bod y newid yn golygu y bydd yn anoddach iddyn nhw gyflogi staff a chreu swyddi, gan y bydd angen iddyn nhw dalu mwy.

Cyflog Byw Cenedlaethol

Dydd Mawrth fe wnaeth y Canghellor cyhoeddi y bydd dros dair miliwn o weithwyr yn y Deyrnas Unedig yn derbyn mwy o gyflog y flwyddyn nesaf.

Daw hyn wedi'r cyhoeddiad y bydd y cyflog byw yn codi i dros £12 yr awr.

Mae'n golygu y bydd gweithwyr sydd yn derbyn y cyflog yma yn ennill £1,400 yn fwy bob blwyddyn.

Yn ogystal, bydd yr isafswm cyflog i bobl ifanc 18 i 20 oed yn codi £1.40 yr awr, o £8.60 i £10.

Ers 1 Ebrill, mae gan weithwyr sydd dros 21 oed yr hawl i dderbyn y Cyflog Byw. Cyn hynny, roedd yn rhaid bod yn 23 i fod yn gymwys i'w dderbyn.

Mae’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw a’r Isafswm Cyflog yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn yn dilyn cyngor gan grŵp annibynnol, y Comisiwn Cyflogau Isel.

Llun: Hollie Adams/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.