Newyddion S4C

Cyflog Byw i godi i dros £12

29/10/2024
arian / Rachel Reeves

Bydd dros dair miliwn o weithwyr yn y Deyrnas Unedig yn derbyn mwy o gyflog y flwyddyn nesaf wedi'r cyhoeddiad y bydd y cyflog byw yn codi i dros £12 yr awr.

Cyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y bydd y Cyflog Byw Gwladol yn codi o £11.44 i £12.21 o fis Ebrill 2025, cynnydd o 6.7%.

Mae'n golygu y bydd gweithwyr sydd yn derbyn y cyflog yma yn ennill £1,400 yn fwy bob blwyddyn.

Yn ogystal, bydd yr isafswm cyflog i bobl ifanc 18 i 20 oed yn codi £1.40 yr awr, o £8.60 i £10.

Ers 1 Ebrill, mae gan weithwyr sydd dros 21 oed yr hawl i dderbyn y Cyflog Byw. Cyn hynny, roedd yn rhaid bod yn 23 i fod yn gymwys i'w dderbyn.

Mae’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw a’r Isafswm Cyflog yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU bob blwyddyn yn dilyn cyngor gan grŵp annibynnol, y Comisiwn Cyflogau Isel.

Dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves bod y penderfyniad yn "gam arwyddocaol tuag at gyflog byw gwirioneddol i weithwyr."

Ond mae rhai cwmniau eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw o bosibl gyflogi llai o weithwyr oherwydd y cynnydd. 

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog y DU, Angela Rayner bod pobl yn haeddu tâl gwell.

"Mae diwrnod o waith yn haeddu'r cyflog iawn," meddai.

Bydd yr isafswm cyflog fesul awr ar gyfer prentisiaethau hefyd yn codi flwyddyn nesaf.

Bydd prentis 18 oed sydd yn gweithio mewn diwydiant fel adeiladu yn gweld ei isafswm cyflog fesul awr yn cynyddu 18.0% i £7.55 yr awr.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.