Newyddion S4C

Gobaith a phryder ddyddiau cyn cyhoeddi'r Gyllideb

29/10/2024

Gobaith a phryder ddyddiau cyn cyhoeddi'r Gyllideb

Does dim prinder pethau melys yn y becws yma. Mae Cat Owen yn gwneud ei bywoliaeth yn pobi ac addurno cacennau.

Mae'n gobeithio bydd y Canghellor yn cynnig digon o ddanteithion i'w chwsmeriaid ddydd Mercher.

"Dw i angen i'r cwsmeriaid fod efo mwy o confidence i brynu pethau fatha trîts a chacennau. Dw i ddim eisiau trethi nhw mynd i fyny."

Ers deng mlynedd, mae Cat wedi bod yn datblygu ei busnes, Cat Food. Yn ystod adegau prysur, mae'n cyflogi staff ychwanegol i helpu. 

Ond mae'n pryderu am y gost ychwanegol pe bai'r Canghellor yn dweud bod yn rhaid iddi, fel cyflogwr gyfrannu rhagor at Yswiriant Gwladol ei gweithwyr.

"Tuag at Nadolig, bydd cwpl o bobl yma yn pacio'r orders i gyd. Mae hwnna'n poeni fi fod efallai yn y Gyllideb bydd National Insurance yn mynd i fyny ar ran fi, dim nhw.

"Efallai bydd e'n costio mwy i fi gyflogi nhw y flwyddyn yma. Bydd o'n effeithio faint o oriau dw i'n medru rhoi a faint fi'n mynd i godi ar y pethau Nadolig."

Paratoi'r tir at gyhoeddiadau anodd oedd y Prif Weinidog, Keir Starmer.

"These are unprecedented circumstances but the Budget the Chancellor will deliver on Wednesday, will prevent devastating austerity in our public services and prevent a disastrous path for our public finances."

Bydd penderfyniadau anodd nawr yn helpu ailadeiladu economi Prydain.

"Trust in my project to return Britain to the service of working people can only be earned through actions not words. Change must be felt but every decision we have made, every decision that we will make in the future will be made with working people in our mind's eye."

Mae'r Gyllideb hon yn cael ei chyflwyno bron i bedwar mis ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan.

Digonedd o ddarogan gwae a dyfalu wedi llenwi'r cyfnod hwnnw. Un peth sy'n sicr, fe fydd trethi yn codi ond i bwy ac ymhle?

Dyna'r cwestiynau sy'n parhau am y tro er i'r Llywodraeth fynnu nad gweithwyr fydd yn ysgwyddo'r baich.

"Mae'r pwysau am fod ar y cyflogwr yn hytrach na'r gweithwyr. Mae hynny'n iawn i'r dyn cyffredin er mwyn allu talu'r morgais.

"Mae hwn i fod yn Gyllideb sy'n galluogi tyfiant yn yr economi."

Yma ym Mhorthcawl heddiw, roedd 'na ofid yng ngwynt y coffi.

"Mae'r gwasanaethau y GIG angen mwy o arian ac addysg hefyd. Ie, mae addysg yn bwysig."

"Does dim llawer o bethau i bobl ifanc i wneud yn yr ardal yma. Ni'n poeni am nhw achos mae pobl yn symud, mae pobl ifanc yn symud.

"Maen nhw'n mynd i'r brifysgol, wedyn ddim yn moyn dod adref."

O'r bore coffi i'r becws, mae cwestiynau ymhobman ynglŷn â shwt fydd y Canghellor yn torri'r gacen ddydd Mercher.

Gobaith yw'r cynhwysyn prin ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.