Y 'rhan fwyaf' o wasanaethau yn dychwelyd i Ysbyty Llwynhelyg ar ôl darganfod concrit RAAC
Fe fydd y “rhan fwyaf” o glinigau cleifion allanol yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Sir Benfro yn dychwelyd i’r safle yn dilyn problemau gyda choncrit diffygiol.
Ond mae gwaith eto i'w gwblhau mewn ambell ran o'r ysbyty.
Cafodd sawl adeilad ar draws Gymru eu cau'r llynedd, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a sawl ysbyty ac ysgol, yn dilyn pryderon am ddiogelwch Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC).
Bu'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gau adeilad Cleifion Allanol A yn Ysbyty Llwynhelyg wedi i’r math yma o goncrit gael ei ddarganfod yn yr adeilad.
Fe gafodd chwe ward allan o 12 yn yr ysbyty eu cau er mwyn cynnal gwaith arolygu hanfodol ar y safle, gyda gwasanaethau cleifion allanol, gan gynnwys Gastroenteroleg, Meddygaeth Gyffredinol a Llawfeddygaeth Blastig, yn cael eu symud i gartrefi dros dro.
Cafodd y wardiau hynny eu hail-agor fis Ebrill ac mae’r bwrdd iechyd bellach wedi cadarnhau bod adeilad Cleifion Allanol A nawr yn gwbl weithredol.
Cau rhai wardiau
Ond fe fydd yn rhaid cau rhai wardiau am gyfnodau wrth i waith arolygu barhau mewn rhannau o’r adeilad.
Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn falch iawn bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau Cleifion Allanol a gafodd eu hadleoli wrth i ni weithio i atgyweirio ardaloedd clinigol cleifion allanol bellach wedi dychwelyd i Lwynhelyg.”
Dywedodd y bwrdd iechyd bod cegin yr ysbyty wedi ail-agor ac mae disgwyl i’r ardal therapïau, gan gynnwys ffisiotherapi, ailagor ganol mis Tachwedd.
Ond fe fydd gwaith arolygu yn dechrau ar yr ardaloedd llawr gwaelod sydd â RAAC yn ystod 2025 a dechrau 2026.
“Rydyn ni’n gwybod bod y gwaith arolygu a’r camau adferol wedi achosi cryn aflonyddwch a phryder ymhlith aelodau ein cymuned, ac rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir,” meddai Mr Carruthers.
“Hoffai’r bwrdd iechyd ddiolch i staff ysbytai, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth dros y misoedd diwethaf tra rydym wedi bod yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”