Newyddion S4C

Miloedd o docynnau Oasis i gael eu canslo

29/10/2024
Oasis

Bydd miloedd o docynnau i sioeau Oasis a gafodd eu rhoi ar wefannau heb eu hawdurdodi yn cael eu canslo yn yr wythnosau nesaf. 

Roedd galw anferth am y tocynnau ar ôl iddynt fynd ar werth, gyda'r holl docynnau wedi eu gwerthu o fewn ychydig oriau. 

Roedd nifer o gefngogwyr yn flin ar ôl i broblemau gyda gwefannau tocynnau effeithio ar ymdrechion i geisio prynu tocynnau.

Fe wnaeth y band gadarnhau ym mis Awst eu bod yn ail ffurfio, gan gyhoeddi taith ym Mhrydain ac Iwerddon. 

Bydd dau gyngerdd cyntaf y daith yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

Mae pobl sy'n ceisio gwerthu eu tocynnau am elw yn torri termau ac amodau'r gwerthiant. 

Fe fydd y tocynnau hyn yn cael eu canslo gan Ticketmaster neu See Tickets ac yn mynd ar werth am y pris gwreiddiol, gyda disgwyl i fanylion gael eu cyhoeddi yn fuan. 

Dywedodd llefarydd ar ran Ticketmaster a See Tickets mai tua 4% o docynnau sydd wedi ceisio cael eu hail-werthu.

Mae cefnogwyr wedi cael eu rhybuddio i beidio â phrynu o wefannau sydd heb eu hawdurdodi.

Ychwanegodd y llefarydd: "Os ydy cefnogwyr eisiau gwerthu tocynnau Oasis, mae modd iddynt wneud hynny am y pris gwreiddiol drwy wefan Ticketmaster neu bartner ail-werthu swyddogol y band, Twickets."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.