Newyddion S4C

Gwynedd: Adroddiadau am blant yn taflu cerrig ac wyau at dai

29/10/2024
Bermo

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio rhieni i "fod yn ymwybodol" o'r hyn y mae eu plant yn ei wneud ar ôl oriau ysgol wedi adroddiadau fod cerrig ac wyau wedi eu taflu tuag at gartrefi pobl yn ne Gwynedd.

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi derbyn nifer o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch y Bermo, a hynny'n bennaf ar benwythnosau a gyda'r hwyr.  

Yn ôl yr heddlu, mae adroddiadau fod plant yn cnocio drysau tai ac yn rhedeg i ffwrdd hefyd.

Mae hwn yn achosi "straen a phryder mawr i'r rhai sydd yn dioddef ymddygiad o'r fath," meddai'r heddlu.

Mae'r llu yn gofyn i bobl sydd yn dioddef ymddygiad o'r fath i gysylltu â nhw trwy ffonio 101 neu ar-lein.

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â lluniau CCTV i gysylltu i'n helpu i fynd i'r afael â hyn.

"Mae'r rhai sydd wedi cael eu dal, a bydd yn cael eu dal, yn cael eu trin yn y modd priodol," meddai Heddlu'r Gogledd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.