Toriadau ariannol yn 'peryglu dyfodol y diwydiant llyfrau yng Nghymru'
Toriadau ariannol yn 'peryglu dyfodol y diwydiant llyfrau yng Nghymru'
"Mae wastad pwysau a pryder o ran gwerthiant llyfrau Cymraeg."
Dyna farn un sy'n eu gwerthu nhw yma yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn dweud bod gwerthiant yn gyffredinol yn gostwng.
"Y prif reswm am hynny yw bod llai a llai o arian gan ysgolion. Mae ysgolion yn dibynnu ar ddefnyddio hen lyfrau.
"Mae rhai gyda cyllideb pitw o ran prynu llyfrau. Mae'n mynd i gael effaith ar lythrennedd plant."
Cyngor Llyfrau Cymru sy'n darparu'r grantiau drwy arian gan Lywodraeth Cymru. Mae'r corff sy'n cynrychioli cyhoeddwyr Cymreig yn dweud bod cyfanswm y grantiau Cymraeg wedi gostwng £350,000 mewn degawd.
Mae'n doriad termau real o 40%.
"Yn bendant os bydd toriadau pellach bydd colli swyddi a bydd dirywiad mawr i ddod i'r diwydiant.
"Mewn pum mlynedd, a fydd diwydiant cyhoeddi Cymraeg yn bodoli os yw'r toriadau a'r sefyllfa o ran gwerthiant yn parhau?"
Mae un cyn-weinidog wedi awgrymu gall y sefyllfa effeithio ar nod Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
"Dylai cyhoeddi llyfrau i blant ac ieuenctid fod yn rhan annatod o gynlluniau'r Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr."
Faint felly mae'r myfyrwyr yma yn darllen o ran llyfrau Cymraeg?
"'Dan ni'n licio cymdeithasu a darllen yn ein hamser rhydd. 'Dan ni yn yr oed lle 'dan ni'n siarad mwy am lyfrau na theledu. Ond yn Saesneg 'de."
Oes digon yn cael ei wneud i ddenu pobl ifanc at lyfrau Cymraeg?
"Mae 'na dipyn o sgyrsiau ond sa i'n credu bod 'na ddigon yn weledol. Mae pobl ifanc, oherwydd bod ni mor brysur ac efo attention span byr mae diddordeb ni'n mynd mor gyflym ar bethau arall.
"Mae'n fater o neud yn siwr bod ni'n cael diddordeb pobl ifanc."
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd economaidd a diwylliannol y sector ond rhaid gwneud penderfyniadau anodd i ddiogelu gwasanaethau fel iechyd ac addysg.
Y rhybudd yn glir felly gan y diwydiant. Gall y bennod nesaf fod yn hynod o anodd os y bydd toriadau ariannol.